Bu grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant yn cyfarfod am y tro cyntaf yn Aberystwyth yr wythnos hon ar ôl cael eu penodi’n aelodau o weithgor newydd, sef y Gweithgor Arloesi ac Ymchwil Cynaliadwy.
Cafodd deuddeg unigolyn eu dewis, gyda’r nod o gefnogi ac arwain Hybu Cig Cymru (HCC) ym meysydd arloesi, ymchwil a datblygu mewn perthynas â chynaliadwyedd sector cig coch Cymru.
Dan gadeiryddiaeth Aelod o Fwrdd HCC, y ffermwr cig eidion a defaid, Emlyn Roberts, mae arbenigedd y grŵp yn amrywio o dir glas, iechyd pridd a bioamrywiaeth i systemau da byw, iechyd anifeiliaid a geneteg, ynghyd â phrofiad o gadwyni cyflenwi cynaliadwy.
Bydd dyletswyddau’r grŵp yn cynnwys cynnal ymagwedd gyfannol at gynaliadwyedd ar gyfer holl agweddau cynhyrchu cig coch yng Nghymru; rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau, gweithgareddau ac ymchwil newydd; rhagweld cyfleoedd ar gyfer cynaliadwyedd; a chynghori ynghylch y posibilrwydd o gydweithio strategol addas.
Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies a oedd yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf ar 27 Chwefror: “Mae HCC wedi ymrwymo i leihau effaith cynhyrchu a phrosesu cig coch Cymru ar yr hinsawdd, yr amgylchedd a gwastraff. Blaenoriaeth arall yw cyfrannu at wneud y diwydiant yma yng Nghymru yn fwy proffidiol a chynaliadwy. Gyda hynny mewn golwg, sefydlwyd y grŵp newydd hwn i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein dogfen strategol ‘Gweledigaeth 2025’ sy’n amlinellu’r blaenoriaethau, y cyfleoedd a’r heriau allweddol ar gyfer y sector cig coch.
“Cawsom ddechrau gwych gyda chyfarfod cadarnhaol iawn. Cafwyd trafodaeth frwd am gynaliadwyedd y sector, gan rannu syniadau adeiladol i’w wella er mwyn diogelu ei ddyfodol. Bydd y sgwrs hon yn parhau o fewn HCC ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r grŵp dros y misoedd nesaf.”
Aelodau’r Gweithgor yw:
- Arfon Williams, RSPB
- Charles Bowyer, Canolfan Agri-EPI
- Claire Jones, Canolfan Milfeddygaeth Cymru
- Dr Christina Marley, IBERS
- Dr Julie Finch, Kepak
- Dr Nicola Lambe, Coleg Gwledig yr Alban
- Dr Prysor Williams, Prifysgol Bangor
- Dr Sarah Morgan, Prifysgol Harper Adams
- Emlyn Roberts, Bwrdd HCC (Cadeirydd y Grŵp)
- Leisia Tudor, Dunbia
- Yr Athro Mike Humphreys, Bwrdd HCC
- Neil Howard, Aelod Annibynnol
- Neil Shand, Y Gymdeithas Gig Eidion Genedlaethol (NBA)
- Steven Williams, Y Ganolfan Technoleg Bwyd