Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Mae ymgyrch aml-lwyfan a oedd yn ceisio gwneud pobl yn fwy ymwybodol o frand Cig Oen Cymru PGI wedi bod yn llwyddiannus dros ben i Hybu Cig Cymru (HCC).

Roedd yr ymgyrch, ‘Unigryw i Gymru. Arbenigwyr yn eu maes’ yn defnyddio lleisiau aelodau o’r gymuned amaethyddol yng Nghymru.  Rhoddodd sylw i fywydau tri ffermwr o wahanol rannau o'r wlad, a fu’n sôn am dreftadaeth amaethyddol a’u hymroddiad wrth gynhyrchu bwyd maethlon o ansawdd uchel.

Y tri dan sylw oedd  Emily Jones o Ben-uwch, Ceredigion, Alwyn Phillips o Fethel, Caernarfon a Ben Williams o Ben-tyrch, ger Caerdydd. Hefyd, cafodd hysbyseb deledu ei ffilmio ar fferm Ken a Lisa Markham yn Llanfihangel-y-Pennant yng Ngwynedd.

Roedd eu hanesion yn canolbwyntio’n benodol ar eu hymdrechion i fod yn fwy cynaliadwy a ffermio mewn cytgord â’u hamgylchedd naturiol. Dywedodd Ben Williams, sy’n ffermio Fferm Garth, ychydig y tu allan i Gaerdydd, gyda’i frawd Ethan: “Mae ffermio a gofalu am y tir o’n cwmpas drwy ddulliau cynaliadwy yn talu’n ôl yn yr hirdymor. Mae’n fuddsoddiad bach ar gyfer gwobr dros dymor hir iawn.”

Gyda Ben ac Ethan yn dal yn eu hugeiniau ac yn cynrychioli dyfodol y diwydiant, mae ffermio cynaliadwy a chaniatáu i’r ffermwyr eu hunain adrodd eu stori, a chael mwy o gysylltiad â’r defnyddiwr, yn bwysig iawn. “Rwy’n meddwl mai’r peth rwy’n ei fwynhau fwyaf am ffermio yw gwella’r ffordd rydyn ni’n cynhyrchu ein bwyd flwyddyn ar ôl blwyddyn – a hynny mewn ffordd gynaliadwy. Dylai'r ddau beth hyn fynd law yn llaw bob amser.

“Rwy’n credu bod angen cael mwy o gysylltiad rhwng y ffermwr a’r defnyddiwr. Rwy’n meddwl y dylai ffermwyr allu adrodd eu stori – mae llawer i’w ddweud – fel y gall pobl werthfawrogi’r cysylltiad rhwng cynhyrchu cig, cynaliadwyedd a chymuned. Rydw i wir yn credu bod gan ffermio ddyfodol disglair.”

Roedd yr ymgyrch, a fu’n rhedeg rhwng Awst a Hydref 2023, yn defnyddio cymysgedd o hysbysebion teledu a dulliau mwy tactegol, megis hysbysebion yng nghyffiniau siopau allweddol lle'r oedd y cynnyrch ar gael.

Cyrhaeddwyd dros dair miliwn o ddefnyddwyr targed ,a chafwyd ychydig o dan 24 miliwn o argraffiadau ledled Cymru a Lloegr. Yn ogystal, gwelwyd cynnydd dramatig mewn ymweliadau â’r we, gydag ychydig dros 230,000 o bobl yn ymweld â'r safle dros y cyfnod o dri mis.

Golygodd hyn oll y bu cynnydd sylweddol o 26% mewn ymwybyddiaeth o’r brand a chynnydd o 7% yn nifer y rhai a oedd am brynu Cig Oen Cymru. Ar ben hyn, o ganlyniad i hysbysebu wedi'i dargedu mewn lleoliadau allweddol, gwelwyd cynnydd o 10% yn nifer y cwsmeriaid a fu’n ymweld  â siopau mân-werthwr mawr yn Lloegr a oedd yn gwerthu’r cynnyrch.

Elfen allweddol o lwyddiant yr ymgyrch oedd hysbyseb deledu a ffilmiwyd ar fferm Ken a Lisa Markham, ac a oedd yn dangos eu diadell o ddefaid Mynydd Cymreig yn pori’r gweiriau naturiol ar Gader Idris.

I Lisa, roedd yn wych gweld eu ffordd o fyw yn cael ei werthfawrogi mewn cartrefi ar draws y DG.  Meddai: “Mae’n rhaid i ni ffermio mewn ffordd naturiol, fel y gwnaeth ein cyndeidiau am ganrifoedd. Mae ein hŵyn yn byw ar y glaswellt naturiol – maen nhw’n pesgi’n naturiol – felly rydyn ni wir yn gweithio mewn cytgord â’n hamgylchedd naturiol.

“Nid yn unig rydyn ni’n helpu i gynnal y tirweddau syfrdanol o hardd sydd yng Nghymru, ond mae ffermwyr hefyd yn hanfodol i’r economi wledig ac yn cefnogi swyddi lleol. Mae'n wych ein gweld yn chwarae mwy o ran yn helpu i werthu ein cynnyrch. Gobeithio y bydd defnyddwyr yn deall ychydig mwy am ein stori unigryw, a’n rhan hanfodol yng nghyfansoddiad y wlad.”

Dywedodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill: “Mae gan Gig Oen Cymru stori anhygoel i’w hadrodd, a thu ôl i'r cynnyrch premiwm mae ein ffermwyr. Maen nhw’n arbenigwyr yn eu maes, ac felly maen nhw wedi chwarae’r rhan ganolog yn yr ymgyrch hon Buom yn canolbwyntio ar y bobl sy'n cynhyrchu ein bwyd a thynnu sylw at y rhinweddau unigryw Cymreig, sydd wedi creu argraff dda ar y defnyddwyr.

“Roedd  gan ffermwyr Cymru ran allweddol yn yr ymgyrch, wrth iddyn nhw adrodd hanes treftadaeth gyfoethog, gwaith caled a hunaniaeth ddiwylliannol, a byddwn nawr yn adeiladu ar lwyddiant yr ymgyrch yn y flwyddyn i ddod.”

Ychwanegodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Mae gan Gig Oen Cymru a’n ffermwyr gysylltiad hanfodol â’r amgylchedd a bioamrywiaeth ac maen nhw’n chwarae rhan flaenllaw o ran cynhyrchu bwyd maethlon a chynaliadwy.  Yn y flwyddyn i ddod byddwn yn parhau i adrodd y stori hon, gan adeiladu ar lwyddiant anhygoel yr ymgyrch.”

You may also like

HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Targed twf byd-eang ar gyfer arbenigwyr allforio HCC
Targed twf byd-eang ar gyfer arbenigwyr allforio HCC
Digwyddiad ar gyfer diwydiant yn darparu llwyfan ar gyfer rhannu gwybodaeth
Digwyddiad ar gyfer diwydiant yn darparu llwyfan ar gyfer rhannu gwybodaeth
Cig coch Cymru yn llawn daioni – meddai Hybu Cig Cymru wrth selogion y gampfa
Cig coch Cymru yn llawn daioni – meddai Hybu Cig Cymru wrth selogion y gampfa
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.