Nod prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru yw ymchwilio i effaith ffactorau ar y fferm a ffactorau prosesu ar ansawdd bwyta Cig Oen Cymru.
- Roedd y treial cyntaf wedi archwilio effeithiau’r math o frîd, y darn o gig a rhyw’r oen ar ansawdd bwyta. Cynhaliwyd paneli blasu defnyddwyr yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2020 yng Nghaerdydd, Belfast a Newport (Swydd Amwythig). Roedd aelodau’r panel yn dod o’r ardaloedd cyfagos.
- Bu’r ail dreial yn archwilio i sut mae’r hyn y mae ŵyn yn ei fwyta wrth besgi, aeddfedu’r cig a’i dorri yn cael effaith ar ansawdd bwyta’r cig. Cynhaliwyd sesiynau blasu yn ystod misoedd Awst, Medi a Rhagfyr 2021 yn Llwydlo, Caer a Reading gydag aelodau’r paneli blasu’n dod o’r ardaloedd cyfagos.
- Archwiliodd y trydydd treial i sut mae’r adeg o’r flwyddyn a rhyw yr ŵyn yn dylanwadu ar ansawdd y bwyta. Cynhaliwyd sesiynau blasu yn ystod misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst 2022 yn Ealing, Ffos-las a Belfast gydag aelodau’r paneli blasu yn dod o’r ardaloedd cyfagos.
- Archwiliodd y pedwerydd treial i sut mae hongian a thorri’r cig, ynghyd a’i becynnu, yn cael effaith ar ansawdd y bwyta. Cynhaliwyd sesiynau blasu yn ystod misoedd Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2022 yn Malvern, Lerpwl a Wrecsam gydag aelodau’r paneli blasu yn dod o’r ardaloedd cyfagos.
Isod fe welwch yr adroddiadau treial, crynodeb o’r canlyniadau, a chrynodeb cyffredinol o’r prosiect.
Video Gallery
Ein Prosiectau Eraill
Rhaglen Datblygu Cig CochStoc+
Gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon i hybu rheolaeth iechyd praidd a buches ragweithiol, i helpu Cymru i arwain y byd mewn lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.