Mae gŵr a gwraig sy’n bridio gwartheg cig yng Ngogledd Cymru wedi tynnu sylw at y modd mae gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata yn eu helpu i fod yn fwy effeithlon a chynaliadwy, wrth reoli eu hôl troed carbon a gwella bioamrywiaeth ar draws eu tir.
Ar eu fferm, Moelogan Fawr, ar gyrion Llanrwst, sy’n cynnwys 304 hectar (751 erw) ac sy’n codi i 1500 troedfedd (tua 457.2 m), maen nhw’n cadw gwartheg cig a defaid. Mae’r fferm yn gartref i’r teulu Jones, lle mae Siân a’i gŵr Llion, ynghyd â’u tri phlentyn, Gwern (9), Beca (8) a Annie (2), yn gofalu am150 o wartheg Stabiliser a thua 850 o famogiaid Cymreig wedi eu gwella. Mae’r fferm wedi bod yn nheulu Siân ers 1972, a hi yw’r drydedd genhedlaeth i ffermio yno.
“Cyn cymryd drosodd y fferm yn 2018, roedden ni ar fferm 40-erw a oedd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd Llion yn gweithio ar fferm laeth ac roeddwn i’n gweithio fel syrfëwr i’r awdurdod lleol. Roedd cychwyn yma yn gam enfawr i ni, drwy wneud ffermio yn swydd amser-llawn, ond mae’n gyfle gwych i ni yn ogystal ag i’n plant,” meddai Sian.
Mae'r tir yma'n amrywio o dir wedi'i wella a'i led-wella i'r rhannau uchaf lle mae llawer o gynefin lled-naturiol/heb ei wella yn cael ei bori'n helaeth. Mae plannu coed yn helaeth, trwy grant Creu Coetir Glastir yn 2018 yn golygu bod y fferm bellach yn cynnwys 10 hectar (24.7 erw) o goetir llydanddail cymysg sydd newydd ei blannu ac sy’n ymestyn arwynebedd y coetir presennol, gan gynyddu maint y cynefin a’i wydnwch i newidiadau amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol. Mae'r coetir yn golygu hefyd bod cynefinoedd yn cysylltu’n well ar draws rhannau isaf Moelogan Fawr a thrwy hynny yn hybu bioamrywiaeth ar y fferm .
Mae yna hefyd 20.6 hectar (51 erw) o rostir ucheldirol (gwlyb a sych), sy’n werthfawr i nifer o rywogaethau o bwysigrwydd cadwraeth uchel a gollwyd o sawl man arall yn y DG. Mae'r cymysgedd o gynefinoedd gwlyb a sych, uchder a strwythur gwahanol y llystyfiant yn bwysig yn ogystal o ran cynefin. Mae gan y fferm ddau bwll hefyd, sy'n helpu i gynnal planhigion dyfrol a rhywogaethau o adar sy'n nythu ar y ddaear, gan gynnwys y Gylfinir a'r Gornchwiglen.
Mae Siân a Llion yn awyddus i fod mor gynaliadwy ac effeithlon â phosibl a chofnodi a mesur eu data fferm yn rheolaidd, gan gynnwys archwilio carbon. Trwy weithio gyda HCC ar eu harchwiliad carbon, cafodd Siân a Llion gyngor ar sut i leihau eu hôl troed carbon drwy, er enghraifft, wneud eu glaswellt yn fwy amrywiol, rhoi’r gorau i ddefnyddio gwrtaith ar dir pori a defnyddio cyn lleied â phosibl ar dir silwair. Maen nhw hefyd yn cynnal profion pridd er mwyn gwneud y defnydd gorau o wrtaith nitrogen. Mae hyn i gyd yn arbed arian iddyn nhw drwy leihau mewnbynnau ynghyd â bod yn fuddiol i'r amgylchedd. Yn eu hymgais i leihau costau ar draws y fferm, maen nhw’n canolbwyntio'n drwm ar iechyd a ffrwythlondeb y fuches.
“Mae’r wybodaeth o’r archwiliad carbon a’r arolwg bioamrywiaeth a wnaed ar y cyd â HCC wedi ysbrydoli ein penderfyniadau. Er enghraifft, ar y dechrau roedden ni'n tyfu rhygwellt yn unig ac yna fe ddechreuon ni ystyried cynnwys gwndwn llysiau, a deall beth oedd yn gweithio a lle. Rydyn ni wedi addasu a rhoi llyriad yn y gymysgedd ac wedi ychwanegu’r hen laswellt fel Timothy a Cocksfoot. Ar y tir isaf mae gennym wndwn llysieuol sydd yn ffynnu. Mae’n fater o ddysgu beth sy’n gweithio ar ba dir a sut orau i ofalu amdano . Dydyn ni ddim yn ei bori'n rhy galed nes ei fod wedi sefydlu'n iawn ac mae hynny o gymorth. Dyna rai enghreifftiau yn unig o sut rydyn ni’n symud tuag at fferm iachach, priddoedd iachach a busnes mwy effeithlon,” ychwanega Siân.
Fel rhan o’u hymdrechion i fod yn fwy effeithlon, cafodd system bori cylchdro, fel rhan o Grass Check GB, ei rhoi ar waith, ac mae seilwaith newydd trwy gyfrwng traciau ar draws y fferm wedi bod o fantais amlwg.
“Rydym yn ceisio ymestyn ein tymor pori a magu popeth ar laswellt. Rydym wedi ychwanegu cryn dipyn o seilwaith i’r fferm ers cymryd drosodd. Rydyn ni’n ffodus bod gennym ein cerrig ein hunain ar y fferm, ac felly fe wnaethon ni ychwanegu traciau i roi mynedfeydd da i’r caeau. Mae hyn yn golygu y gallwn gael y buchod i'r caeau pellaf pan fo’r tywydd ar ei wlypaf. Ac i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael dŵr i’r holl badogau, mae gennym bwmp dŵr solar sy’n helpu i gymryd dŵr i hyd yn oed y caeau pellaf.
“Roedd y gwartheg yn arfer dod i mewn tua mis Medi ond nawr rydym wedi gallu ymestyn eu tymor yn yr awyr agored tan Hydref/Tachwedd ac mae’r heffrod cyflo allan tan fis Ionawr ar fetys porthiant neu gnwd gaeaf. Mae hynny’n golygu nad oes raid eu rhoi dan do a’u bwydo am ddeufis ychwanegol dros y gaeaf, ac rydym yn gobeithio ymestyn hyn ymhellach. Mae’r buchod yn cael eu pori’n gyfan gwbl ar system gylchdro yn ystod y tymor pori ac rydym wedi dechrau gwneud hynny gyda’r mamogiaid hefyd,” meddai Llion.
“Mae’n wych gweld sut mae’r system pori cylchdro wedi ein helpu i fod yn fwy effeithlon a gwella iechyd y pridd yn ogystal. Yn ystod yr hafau sych mae hyn wedi bod o gymorth mawr. Mae perthyn i grwpiau trafod a meincnodi wedi ein helpu i ddeall ochr ariannol y busnes ac wedi ein galluogi i wybod ble mae angen i ni wella a lle gallwn wneud arbedion. Mae cofnodi data wedi ein helpu i weld lle mae angen bod yn fwy effeithlon, a byddwn yn parhau i ddefnyddio data i’r fath raddau wrth wneud penderfyniadau,” ychwanegodd Siân.
Wrth siarad am eu nodau cynaliadwyedd, mae Siân a Llion yn glir fod rhaid newid. “I ni, mae cynaliadwyedd yn mynd law yn llaw ag effeithlonrwydd. Gorau po fwyaf effeithlon y gallwn fod oherwydd bydd yn gwella ein hôl troed carbon, ac yn ein helpu i gyrraedd y nod. Rydym wrthi’n ceisio prynu llai, cadw ein da byw mor iach â phosibl, defnyddio’r glaswellt, a diogelu’r pridd.
“Mae gennym system gadarn a dydyn ni ddim yn cadw gwartheg os nad ydyn nhw’n haeddu eu lle. Mae geneteg – ac epigeneteg hefyd – yn chwarae rhan bwysig. Rydyn ni’n gwerthu teirw a buchod bridio Stabiliser drwy Gwmni Gwartheg Stabiliser. Pa anifail bynnag y byddwn yn ei werthu – heffrod cyflo neu deirw – rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr y byddan nhw’n perfformio cystal â phosib ar ffermydd eraill,” eglurodd Siân.
“Rydyn ni’n ffermio ar dir uchel ac agored iawn, ac mae hynny’n golygu bod y fferm yn fwy addas na dim ar gyfer gwartheg bridio. Mae gennym system lem iawn yma ac rydym yn gobeithio y bydd y gwartheg yn perfformio lle bynnag y byddan nhw’n mynd. Mae’r traed, y cadeiriau a’r cyflwr cyffredinol, eu hanian, cyflwr a ffrwythlondeb i gyd yn bethau rydym yn eu harchwilio ac mae'n rhaid iddyn nhw fagu lloi da. Rydym yn edrych am unffurfedd yn ein lloi ac yn cofnodi popeth, gan gynnwys y cynnydd pwysau byw a’r pwysau adeg diddyfnu. Ein nod yw cynhyrchu buchod a lloi canolig eu maint. Maen nhw i gyd yn i gyd yn cael eu bwydo ar silwair a glaswellt a dydyn ni ddim yn rhoi bwyd ychwanegol i unrhyw un o’r gwartheg benyw. Os nad ydyn nhw’n gyflo o fewn 9 wythnos ar ôl cyrraedd 14 mis oed, cânt eu pesgi a’u gwerthu ar gyfer cig. Efallai fod hyn yn ymddangos yn ffordd galed o ddelio â’r sefyllfa, ond mae angen i ni fod yn effeithlon ac mae bod yn llym wrth ddewis gwartheg bridio yn rhan o’r broses,” meddai Llion.
Dywedodd Dr. Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd HCC, sydd wedi bod yn gweithio gyda Siân a Llion ar GrassCheck GB yn ogystal â phrosiectau gwella ffrwythlondeb: “Mae ffermydd fel Moelogan Fawr yn gosod y llwyfan ar gyfer arferion ffermio yn y dyfodol. Mae'n hanfodol i ffermydd groesawu ymchwil a datblygu a chyfuno arferion ffermio traddodiadol â manteision technoleg a data er mwyn bod yn gynaliadwy ac yn addas wrth gamu i'r dyfodol.
Tra bod effaith amaethyddiaeth ar newid yn yr hinsawdd yn bwnc llosg iawn o hyd, mae ‘n bwysig cofio bod effaith amgylcheddol y gwahanol systemau ffermio ar draws y byd yn amrywio’n fawr, a bod Cymru yn addas dros ben ar gyfer bridio gwartheg a defaid, fel y gallwn weld ar y fferm hon.
“Mae gan y ffordd Gymreig o ffermio stori wahanol iawn i’w hadrodd o’i chymharu â rhai o’r systemau dwys a diwydiannol mewn rhannau eraill o’r byd. Gyda safonau uchel o hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli tir pori, mae’r teulu Jones yn helpu i gadw ein tirwedd unigryw. Maen nhw’n gwneud cyfraniad gwerthfawr o ran lliniaru newid yn yr hinsawdd ac yn rheoli eu tir glas trwy gyfuno arferion traddodiadol ag arloesedd ac mae HCC yn falch o’u helpu i wneud hynny.”