Mae HCC hefyd yn bartner ym mhrosiect BeefQ, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth, sy’n anelu at gynyddu safon bwyta a gwerth cynnyrch Cig Eidion Cymru PGI.
Agwedd o'r Fferm i'r Fforc at Ansawdd Cyson o Gig Eidion
Nod y prosiect BeefQ oedd gwella cynaliadwyedd ariannol hirdymor cadwyn gyflenwi Cig Eidion Cymru trwy ddatblygu a phrofi technoleg (yn seiliedig ar system Safon Cig Awstralia (MSA)) sy’n sail wyddonol gadarn ar gyfer arddangos ansawdd bwyta Cig Eidion Cymru i ddefnyddwyr.
Yn ogystal â meithrin gallu a hyder yn sector Cig Eidion Cymru drwy ddatblygu a phrofi’r dechnoleg hon, roedd BeefQ am ddangos sut mae modd defnyddio’r data sy’n cael ei gasglu drwy’r system hon i wella penderfyniadau busnes a ‘r cydweithredu a chyfathrebu o fewn y gadwyn gyflenwi.
Roedd hefyd yn anelu at gyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor cynhyrchwyr a chadwyni cyflenwi Cig Eidion Cymru ar ôl Brexit. Cydlynwyd y prosiect gan Brifysgol Aberystwyth, gyda phartneriaid craidd o Hybu Cig Cymru, Celtica Foods Cyf, Birkenwood International (Awstralia), Prifysgol Queens Belfast a Menter a Busnes, ynghyd â chefnogaeth amhrisiadwy gan broseswyr cig eidion, sef Grŵp Bwyd ABP, Dunbia, Dovecote Park, Grŵp Bwyd Randall Parker, Cig Calon Cymru a Kepak.
Argymhellion BeefQ
Ymchwil Pellach
Mae angen mwy o ymchwil yn y DG i symud yr agenda ansawdd bwyta cig eidion yn ei blaen, gan gynnwys sut mae ansawdd bwyta yn cyd-fynd â’r agenda ansawdd amgylcheddol; sut mae dewis ar gyfer naw anifail effeithlon yn cael effaith ar ansawdd bwyta; nodi cyfaddawdau/synergeddau posibl rhwng gwella ansawdd bwyta ac amcanion perfformiad; mwy o gynlluniau peilot a threialu ynghylch rhagfynegi ansawdd bwyta, yn enwedig yng nghyd-destun y busnesau prosesu cig mwyaf; a datblygu set o safonau ar gyfer rhagfynegi ansawdd bwyta yn y DG.
Ein Prosiectau Eraill
Rhaglen Datblygu Cig CochStoc+
Gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon i hybu rheolaeth iechyd praidd a buches ragweithiol, i helpu Cymru i arwain y byd mewn lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.