Mae data newydd yn awgrymu bod modd rhoi hwb i gynhyrchiant ac enillion ar ffermydd cig eidion Cymru drwy leihau cyfnodau lloia a rheoli costau’n well.
Y cyfnod lloia cyfartalog ar gyfer buchod cig eidion yng Nghymru oedd 419 diwrnod yn 2023, sef bron i bedwar diwrnod yn llai nag yn 2022 a saith diwrnod yn llai nag yn 2013, yn ôl data diweddaraf Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS), sy’n ymddangos yn rhifyn mis Ebrill o Bwletin y Farchnad gan Hybu Cig Cymru (HCC).
“Mae pethau’n gwella ond, er gwaethaf y gwelliant a gafwyd yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae ymchwil BCMS yn dangos y bydd angen i’r mwyafrif o ffermydd wneud tipyn mwy os ydyn nhw am gyrraedd y targed o 365 diwrnod rhwng lloia,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC.
“Yn yr un modd, gellir gneud mwy i dorri costau. Mae ein Harolwg Busnesau Fferm diweddaraf yn awgrymu bod bwlch enfawr rhwng y traean uchaf o ffermydd a’r traean isaf ond, wrth newid, gall cynhyrchwyr ddod o hyd i welliant mawr mewn enillion.”
Dywedodd Glesni fod effeithlonrwydd atgenhedlu nid yn unig yn hanfodol i fod yn broffidiol a gwella cynhyrchiant ond gall hefyd olygu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn buches.
“Mae dangosyddion perfformiad buchesi, ynghyd ag amcangyfrifon costau cynhyrchu, yn allweddol o ran dangos cynhyrchiant ac effeithlonrwydd y fuches sugno yng Nghymru. “Mae Bwletin y Farchnad mis Ebrill yn edrych fanwl ar ddata BCMS a FBS i gael gwybodaeth a all helpu ffermwyr cig eidion i fod yn fwy proffidiol ac yn fwy effeithlon,” meddai.
Mae'r rhifyn diweddaraf yn nodi'r rhwystrau posibl rhag cyflawni'r nodau hyn. Mae’n esbonio y gallai cyfraddau twf annigonol neu ffrwythlondeb heb ei reoli o fewn buchesi achosi cyfnodau lloia hirach, tra byddai cyfnodau byrrach, yn eu tro, yn gwneud buches yn fwy proffidiol drwy gynyddu nifer y lloi sy’n bosibl yn ystod oes y fuwch.
“Mae’n amlwg taw’r lloi sugno yw prif gynnyrch buchesi sugno cig eidion ac felly mae rheolaeth dda o’r buchod yn gwbl allweddol i gael y ffrwythlondeb gorau posib gan y fuches er mwyn cynhyrchu lloi sugno iach bob blwyddyn. Drwy wella effeithlonrwydd atgenhedlu’r fuches sugno, byddai pob ffermwr hefyd yn helpu i reoli costau ar y fferm a phroffidioldeb cyffredinol y busnes,” meddai Glesni.
Mae Bwletin y Farchnad yn amcangyfrif y gall oedran cyfartalog y fuwch adeg lloia am y tro cyntaf effeithio ar effeithlonrwydd atgenhedlu’r fuches sugno. Yn 2023, yr oedran cyfartalog adeg y lloia cyntaf gan fuchod cig eidion yng Nghymru oedd 975 diwrnod (neu 32.1 mis). “Mae hyn yn welliant aruthrol o’i gymharu â 2022 – oddeutu 18 diwrnod o wahaniaeth – a chymaint â 34 diwrnod yn llai nag yn 2013. Serch hynny, mae rhywfaint o le eto i wella er mwyn cyrraedd targed sydd yn nes at 24 mis (neu 730 o ddiwrnodau),” meddai Glesni.
Mae Bwletin y Farchnad yn adolygu ffigurau costau cynhyrchu blynyddol yr Arolwg Busnesau Fferm. Mae’r data diweddaraf yn datgelu bod gan draean uchaf y buchesi o ran perfformiad gost gyffredinol o 139.2c/kg a’u bod yn cynhyrchu mwy na’r 307kg. a gynhyrchwyd ar gyfartaledd gan fuchesi. Hefyd, roedd gan y traean uchaf ychydig yn llai o gostau newidiol a sefydlog, a oedd yn golygu gwahaniaeth cyffredinol o 180.0c/kg rhwng traean uchaf a thraean isaf y buchesi o ran cyfanswm y costau.
“Gan fod enillion y farchnad yn debyg ar gyfer pob un o’r tri chategori o berfformwyr, mae hyn yn awgrymu’n glir y dylid canolbwyntio ar reoli costau ar y fferm er mwyn gwneud y gorau o broffidioldeb buchesi sugno yng Nghymru,” meddai Glesni.
Mae Bwletin y Farchnad HCC i’w weld yma: https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/bwletin-y-farchnad