Yn 2018, dyfarnwyd cyllid i HCC am fenter strategol 5-mlynedd.
Mae’r Rhaglen Datblygu Cig Coch yn anelu at sichrau fod y sector cig coch yn barod at y dyfodol; gan hybu effeithlonrwydd, proffidioldeb a chynaliadwyedd drwy’r gadwyn gyflenwi, a sichrau cynnyrch o safon uchel y medrir ei olrhain, fydd yn apelio at gwsmeriaid y dyfodol.
Bydd yn cynnwys tri phrosiect pwysig: Stoc+, Cynllun Hyrddod Mynydd ac Ansawdd Cig Oen Cymru fydd yn canolbwyntio ar iechyd anifeiliaid, geneteg ac ansawdd bwyta cig.
Prosiectau Rhaglen Datblygu Cig Coch
Darllen mwyProsiect Stoc+
Gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon i hybu rheolaeth iechyd praidd a buches ragweithiol, i helpu Cymru i arwain y byd mewn lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.
Cynllun Hyrddod Mynydd
Buddsoddi yn nyfodol cymunedau ucheldir Cymru trwy ddefnyddio’r dechnoleg bridio diweddaraf a recordio perfformiad yn y sector fynydd Gymreig.