Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Mewn digwyddiad cydweithredol o’r fferm i’r fforc a gynhelir yn Sir Gaerfyrddin, bydd stori ‘o’r fferm i’r fforc’ yn dod yn fyw i dros 1,000 o ddisgyblion ysgol yn ystod tri diwrnod ym mis Gorffennaf.

Bydd digwyddiad My Food Plate / Fy Mhlât Bwyd, sy’n  yn cael ei drefnu gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gerfyrddin, yn rhoi cyfle i blant ysgol ddysgu am gynhyrchu bwyd yn lleol, pwysigrwydd ffermio a chael amgylchedd iach. Bydd dros fil o ddisgyblion cynradd ac uwchradd o amrywiaeth o ysgolion lleol yn mynychu’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar Faes Sioe Sir Gaerfyrddin rhwng 2 a 4 Gorffennaf.

Cefnogir y digwyddiad gan Fwydydd Castell Howell a Hybu Cig Cymru (HCC) a fydd yn darparu gweithdai coginio rhyngweithiol lle defnyddir Cig Eidion Cymru PGI, caws Cymreig a chynnyrch lleol i greu pasta bolognese Cig Eidion Cymru. Bydd hyn yn cael ei wneud hefyd, ar y cyd â  Chyngor Sir Caerfyrddin, mewn ciniawau ysgol ar draws y sir yn ystod yr un wythnos.

Yn ogystal, bydd plant yn cael cyfle i weld anifeiliaid fferm byw, peiriannau fferm a chwrdd â ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol a fydd yn dangos i’r plant sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru.

Esboniodd Esyllt Thomas, Swyddog Materion Gwledig CFfI Sir Gaerfyrddin: “Rydyn ni,  ochr yn ochr ag aelodau presennol a chyn-aelodau, busnesau lleol, a chwmnïau, yn edrych ymlaen at groesawu ‘Fy Mhlât Bwyd’ am y tro cyntaf i Sir Gaerfyrddin. Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel.  Rydyn ni’n disgwyl y bydd dros fil o blant yn mynychu’r gweithgareddau. Fel aelod presennol o’r Clwb Ffermwyr Ifanc, mae’n bwysig imi hyrwyddo busnesau lleol – hen a newydd – yn ogystal ag arddangos gwaith caled ffermwyr ar draws y DG.”

Dywedodd Edward Morgan, Rheolwr ESG yn Castell Howell: “Mae Fy Mhlât Bwyd  yn gyfle gwych i gydweithio â HCC ac ymgysylltu’n uniongyrchol â dros fil o blant ysgol. Fel cyflenwyr i ysgolion Sir Gâr, rydyn ni’n gweithio'n agos â’r tîm arlwyo ac yn gwneud ein gorau i hyrwyddo cynhwysion a seigiau o Gymru. Mae’n wych gweld un o’u seigiau yn thema fwyd ganolog yn y digwyddiad hwn.”

Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr: “Rydym wrth ein bodd ei bod yn gallu cefnogi’r digwyddiad gwych hwn a helpu i ddod â stori ffermio yn fyw.  Mae Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn gonglfaen i’r sector amaethyddol yng Nghymru a byddwn nid yn unig yn dangos  sut maen nhw’n cael eu cynhyrchu trwy ddulliau cynaliadwy, ond hefyd sut maen nhw’n dda i’n diet.”

Dywedodd Carys Thomas, Trefnydd Sirol CFfI Sir Gaerfyrddin: “Mae CFfI Sir Gâr yn falch bod digwyddiad ‘Fy Mhlât Bwyd’ yn cael ei gynnal ar gyfer plant o oedran cynradd yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n bwysig ein bod yn gallu dangos tarddiad bwyd, pwysigrwydd cefn gwlad, peiriannau fferm, a diogelwch ar y fferm. Gobeithio y bydd y plant a’r athrawon yn cael hwyl wrth ddysgu am bwysigrwydd ein cymunedau gwledig. Diolch i bawb sydd wedi helpu’r mudiad i wneud yn siŵr y gallwn gynnal y digwyddiad hwn – o wirfoddolwyr, aelodau, busnesau lleol, cyflenwyr, a ffrindiau.”

Ymhlith sefydliadau eraill sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad, mae Coleg Gelli Aur, NFU Cymru, Chickwood Poultry, Geifr Dyffryn Cothi, Treialon Cŵn Defaid Meirion Jones, Treialon Cŵn Defaid Meirion Thomas, T Alun Jones, Cyngor Sir Caerfyrddin, Tallis Amos, Y Stand Laeth.

You may also like

HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Targed twf byd-eang ar gyfer arbenigwyr allforio HCC
Targed twf byd-eang ar gyfer arbenigwyr allforio HCC
Digwyddiad ar gyfer diwydiant yn darparu llwyfan ar gyfer rhannu gwybodaeth
Digwyddiad ar gyfer diwydiant yn darparu llwyfan ar gyfer rhannu gwybodaeth
Cig coch Cymru yn llawn daioni – meddai Hybu Cig Cymru wrth selogion y gampfa
Cig coch Cymru yn llawn daioni – meddai Hybu Cig Cymru wrth selogion y gampfa
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.