Bydd Cig Oen Cymru PGI yn cael sylw mewn sawl digwyddiad yn Efrog Newydd yn ystod yr wythnos nesaf wrth i Hybu Cig Cymru (HCC) barhau â’i raglen allforio.
Bydd tîm HCC yn arddangos ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru yn y Summer Fancy Food Show yn Efrog Newydd, sef sioe fasnach arbenigol ar gyfer bwyd a diod a gynhelir rhwng 23 a 25 Mehefin.
Mae Cig Oen Cymru hefyd yn cael sylw mewn digwyddiad Brits in Brooklyn lle mae dylanwadwyr bwyd a diod Americanaidd a phobl bwysig iawn yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o fwydydd eiconig o’r Deyrnas Gyfunol.
Yn ogystal, bydd Cig Oen Cymru ar y fwydlen mewn derbyniad swyddogol gan Lysgennad y Deyrnas Gyfunol yn Efrog Newydd.
Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Mae’r Unol Daleithiau yn un o’n marchnadoedd targed pwysicaf dramor ar gyfer Cig Oen Cymru. Bydd presenoldeb yn y Summer Fancy Food Show a chael Cig Oen Cymru mewn nifer o ddigwyddiadau allweddol eraill yn ein galluogi i gwrdd â darpar brynwyr a chwsmeriaid ac i dynnu sylw at rinweddau amgylcheddol ac ansawdd a blas gwych Cig Oen Cymru.”
Mae’r Unol Daleithiau yn farchnad darged allforio allweddol i HCC a sector Cig Oen Cymru. Amcangyfrifir ei bod yn werth miliynau o bunnau i’r diwydiant yn yr hirdymor. Ail agorodd y farchnad i gynhyrchwyr ac allforwyr y DG yn 2022 ar ôl i waharddiad a barhaodd am ugain mlynedd ddod i ben. Cafodd y llwyth cyntaf o gig oen ei anfon o Gymru ym mis Hydref 2022.