Mae prosiect GrassCheck GB yn dathlu pum mlynedd o wella cynhyrchiant glaswelltir yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Prosiect ar y cyd yw hi, rhwng y cyrff ardoll Hybu Cig Cymru (HCC), Agriculture and Horticulture Development Board (AHDB) a Quality Meat Scotland (QMS), sefydliadau o’r diwydiant, Canolfan UK Agri-Tech ac ymchwilwyr o’r Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau (AFBI) a chwmni ymchwil Rothamsted. Lansiwyd y prosiect i gynnal potensial y DU o ran cynhyrchiant sylweddol o laswellt ac i fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd yn y sector rheoli glaswelltir. Gan ddefnyddio’r data a’r wybodaeth a ddaw yn sgil GrassCheck GB, gall ffermwyr wneud y mwyaf o’u glaswelltir, cynyddu’r tyfiant a gwella’r ansawdd, gwella perfformiad da byw, ac yn y pen draw, dod yn fwy cynaliadwy a chystadleuol o fewn y dirwedd amaethyddol.
I nodi pum mlynedd o’r prosiect, fe gynhelir digwyddiad ar fferm Pen y Gelli ger Caernarfon, ddydd Mawrth 25 Mehefin ble bydd canlyniadau diweddaraf y prosiect yn cael eu rhannu. Wedi’i westeio gan Alwyn Phillips, sy’n rhan o brosiect GrassCheck GB, bydd y digwyddiad yn cynnwys taith o amgylch y fferm ac yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i wella perfformiad y ddiadell trwy fanteisio ar laswellt.
Meddai Katie Evans, Uwch Reolwr Ymgysylltu (cig eidion a chig oen) yn AHDB: “Mae amaethyddiaeth glaswelltir yn gonglfaen ar gyfer y sectorau da byw cnoi cil yn y DU, ac yn rhywbeth y gall y sectorau cynhyrchu da byw ei edmygu’n fyd eang.
“Mae gwella effeithlonrwydd rheolaeth glaswelltir yn ffactor bwysig ar gyfer cynyddu proffidioldeb ffermydd bîff, defaid a llaeth ar draws y DU. Amcangyfrifir bod lefelau cynhyrchu o 7.5t DM/ha/yr a 4.7t DM/ha/yr ar ffermydd llaeth a chig eidion, yn ôl eu trefn. Mae pob tunnell ychwanegol o ddeunydd sych (DM) a ddefnyddir i bob hectar yn arwain at fanteision ariannol arwyddocaol, o £334 a £204 y flwyddyn ar gyfer ffermydd llaeth a bîff, yn ôl eu trefn.”
I sicrhau bod gan ffermwyr y wybodaeth a’r arfau i fedru gwneud y gorau o reoli’u glaswelltir, mae’r prosiect GrassCheck GB wedi sefydlu rhwydwaith o 50 o ffermydd peilot sydd wedi’u lleoli’n strategol dros Gymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r ffermydd yma’n gweithredu fel canolfannau casglu data ar dwf ac ansawdd glaswellt, a’r tywydd, gan gynnig mewnwelediad gwerthfawr i ffermwyr y DU i’w galluogi i wneud penderfyniadau yn seiledig ar wybodeth sy’n cefnogi twf glaswellt a’u ddefnydd. Mae’r data yma hefyd yn rhan hanfodol o ddatblygu model sydd â’r nod o ragfynegi twf a pherfformiad glaswellt i’w ddefnyddio i gynllunio ymlaen.
Meddai Katie: “Agwedd hanfodol o’r prosiect yw creu model tyfu glaswellt soffistigedig, gan gyflenwi rhagolygon tyfu glaswellt 7-14 diwrnod yn rhanbarthol, mewn bwletinau wythnosol. Mae hyn yn galluogi ffermwyr i wneud cynlluniau yn seiliedig ar wybodaeth ar reoli glaswelltir, gan gryfhau effeithlonrwydd gweithredol yn gyffredinol.”
Meddai Dr. Heather McCalman o HCC: “Gyda phrosiect GrassCheck GB yn ei bumed mlynedd, mae’r partneriaid sydd ynghlwm â’r gwaith yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu amaethyddiaeth glaswelltir a helpu sectorau da byw cnoi cil yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i wireddu potensial eu glaswelltir i fod yn fwy hyfyw, cynhyrchiol a chynaliadwy.”
Dangosodd canlyniadau y llynedd bod 78.5% o’r glaswellt, ar gyfartaledd, wedi’i ddefnyddio ar draws ffermydd GrassCheck GB, o’i gymharu â 77% yn y flwyddyn flaenorol, gyda 12 fferm yn cyrraedd 90%. Y gallu i dynnu sylw i fanylion a gyfrannodd at gyrraedd y ffigyrau uchel yma, yn ogystal â chadw gweddillion ar ôl pori yn agos at y targed o 1,500 kg DM/ha.
Er hynny, gosododd nifer o ffermydd dargedau gweddillion ar ôl pori i sicrhau cynhyrchiant anifeiliaid (ar yr un lefel â chost cynhyrchiant glaswellt). O’r herwydd, mae’n rhaid i’r defnydd o laswellt, sy’n cael ei ystyried yn fetrig pwysig ar gyfer rheoli glaswelltir, gael ei ddefnyddio yn erbyn cefndir o amcanion a strategaethau penodol i’r fferm.
Meddai Lesley Mitchell o QMS: “Mae prosiect GrassCheck GB yn enghraifft wych o’r ymdrech ar y cyd sydd â’r nod o roi’r grym i ffermwyr dros Gymru, Lloegr a’r Alban i wella cynhyrchiant eu glaswelltir ac yn sgil hynny, proffidioldeb cyffredinol eu fferm. Drwy ddarparu data diweddar, rhagolygon soffistigedig, a mewnwelediad gwerthfawr i dwf ac ansawdd glaswellt, mae’r prosiect yma’n rhoi gwybodaeth a’r adnoddau angenrheidiol i ffermwyr i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata i wneud y gorau o reolaeth eu glaswelltir.”
Ychwanegodd Dr Heather McCalman: “Rydym ni’n annog ffermwyr a chynrychiolwyr o’r diwydiant i ddod i’r digwyddiad ym Mhen y Gelli ar 25 Mehefin i glywed mwy a chynyddu eu dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar dwf ac ansawdd glaswellt a sut ma’n cyfrannu at gynhyrchu da byw yn effeithiol. Yn ystod y digwyddiad, a gynhelir rhwng 2-5pm, byddwn hefyd yn tynnu sylw at gynnydd y prosiect RamComapre, a bydd siaradwyr arbenigol yn trafod sut gall y diwydiant cig coch elwa drwy ddefnyddio’r wybodaeth o’r prosiectau ar eu ffermydd.”
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad a gynhelir ar fferm Pen y Gelli, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1UH rhwng 2-5yp ar 25 Mehefin 2024, dylai unigolion gysylltu â HCC ar 01970 625050 neu info@hybucig.cymru.
I ddysgu mwy am GrassCheck GB, darllenwch yr astudiaethau achos a’r bwletinau wythnosol ar wefan https://grasscheckgb.co.uk/.