MASACS – Marciwr Genetig ar gyfer gwella cynnyrch Defaid Masnachol
Nod
Nod y prosiect oedd cyfuno’r defnydd o farcwyr genetig â data perfformiad traddodiadol mewn rhaglenni bridio defaid masnachol. Mae’r rhan fwyaf o nodweddion cynhyrchu, e.e. twf ac ymwrthedd i glefydau, yn cael eu rheoli gan nifer o enynnau. Mae modd priodoli cyfran fawr o’r amrywiad rhwng anifeiliaid â nodwedd benodol i nifer fach o enynnau mewn lleoliad penodol. Gelwir y lleoliadau hyn yn Locysau Nodweddion Meintiol (QTL).
Pam mae’m bwysig?
Gallai’r defnydd o Locysau Nodweddion Meintiol a genynnau sy’n gysylltiedig â nodweddion cynhyrchu olygu gwell cynnydd genetig trwy ganiatáu dewis anifeiliaid yn fwy effeithiol ac yn gynharach. Mae hyn mewn cyferbyniad i’r ffyrdd traddodiadol o ddewis, sydd wedi dibynnu ar berfformiad anifeiliaid neu sut olwg sydd arnynt. Yn benodol, bu’r prosiect yn canolbwyntio ar gynhyrchu gwell gwerthoedd bridio ar gyfer cynhyrchu cig coch ac ymwrthedd i lyngyr.
Sut oedd y prosiect yn gweithio?
Casglwyd samplau gwaed oddi wrth ddefaid yn cynrychioli’r bridiau Charollais, Texel a Suffolk. Defnyddiwyd gwybodaeth o’r samplau hyn i ddangos cyfansoddiad genetig yr anifeiliaid a phresenoldeb nodweddion masnachol-ddiddorol megis trwch cyhyrau. Hefyd, casglwyd cyfrifiadau wyau ysgarthol o’r un anifeiliaid er mwyn darganfod locysau am ymwrthedd i lyngyr parasitig.
Pwy wnaeth y gwaith?
Gwnaed y gwaith gan Sefydliad Roslin yng Nghaeredin.
Cafodd y prosiect ei gyllido gan HCC, EBLEX a DEFRA.
I weld yr Adroddiad Terfynol, cliciwch yma