Cymhariaeth o Berfformiad Hyrddod Suffolk Seland Newydd â Hyrddod Suffolk y DG mewn Amgylchedd Tir Isel yng Nghymru
Mae geneteg Suffolk o Seland Newydd yn cael ei hyrwyddo ledled y DG ar sail ei nodweddion ‘gofal hawdd’. Fodd bynnag, ni fesurwyd y graddau y mae’r eneteg hon yn cyfrannu at ofal hawdd pan mae’n digwydd o dan yr un amodau rheoli â geneteg Hyrddod Suffolk y DG. Amcan y prosiect hwn oedd mesur a chymharu perfformiad epil Hyrddod Suffolk Seland Newydd â Hyrddod Suffolk y DG a ddefnyddiwyd yn hyrddod terfynol ar famogiaid croesfrid masnachol ar dir isel yng Nghymru.
Nodau
Bu’r prosiect arddangos hwn yn cymharu perfformiad epil mamogiaid o deip Miwl a gafodd naill ai Hyrddod Suffolk Seland Newydd (yn ddelfrydol â llinach Seland Newydd hollol bur) wedi’u geni yn y DG, Hyrddod Suffolk y DG â mynegrif uchel (pob un yn y 10% uchaf) a Hyrddod Suffolk cyffredin y DG (o ddiadelloedd â mynegrif cyffredin neu heb gofnodion perfformiad). Roedd y dangosyddion perfformiad sylfaenol yn cynnwys pwysau lladd, oed lladd, cydffurfiad a dosbarth braster ynghyd â meincnodi nodweddion rheoli hawdd, sef egni’r wyn, rhwyddineb wyna a chyfrifiadau wyau ysgarthol.
Pwy wnaeth y gwaith?
Gwnaed y prosiect gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y cyd â phartneriaid diwydiannol, Innovis Cyf a’r Gymdeithas Defaid Suffolk. Cafodd yr astudiaeth ei hariannu gan HCC, Innovis Cyf a’r Gymdeithas Defaid Suffolk.
Calyniadau
Mae modd cael hyd i adroddiad llawn yma.