Asesiad o fanteision defnyddio hyrddod â’r genyn Inverdale i gynhyrchu defaid croesfrid mewn cyd-destun Cymreig
Nodau
Nod y prosiect hwn yw darparu data ynglyn â’r perfformiad a’r manteision economaidd canlynol y gellir eu cael trwy ddefnyddio’r dechnoleg Inverdale mewn cyd-destun Cymreig. Bydd yn ymchwilio i faint y cynnydd yn y gyfradd ofwliad a maint y dorllwyth pan fo’r genyn Inverdale mewn mamogiaid croesfrid brodorol y DG a gafodd eu cynhyrchu trwy groesi hwrdd â’r genyn Inverdale â mamogiaid mynydd Cymreig. Y nod wedyn yw mesur y manteision o ran pwysau carcas ac ansawdd carcas (sgil-gynnyrch) wyn gwedder wrth ddefnyddio hwrdd o deip Texel â genyn Inverdale yn hytrach na chroesi hwrdd Wyneblas Caerlyr a mamogiaid mynydd.
Pam ame’n bwysig?
Llai na 60% o’r holl wyn sy’n cael eu gwerthu yn y DG sy’n diwallu gofynion y prynwr prif-ffrwd, ac mae’r sefyllfa’n waeth na hyn yng Nghymru. Priodolir hyn yn rhannol i garcasau o ansawdd isel ymhlith y bridiau mynydd eu hunain a’r bridiau croesi hirwlanog sy’n cael eu defnyddio’n helaeth ar gyfer croesi â bridiau mynydd i gynhyrchu mamogiaid Miwl a Hanner Brid. Mae’r mamogiaid Miwl/Hanner Brid hyn ag ansawdd carcas gweddol ar gyfer croesi â hyrddod o’r bridiau hyrddod terfynol yn niadelloedd tir isel, ac mae’r wyn gwedder o’r cynnyrch Miwl/Hanner Brid ag ansawdd carcas gwael. Felly, mae gwella ansawdd carcas yr wyn gwedder hyn a’r mamogiaid croesfrid sy’n flaenllaw yn y sector tir isel yn flaenoriaeth.
Mae’r genyn Inverdale yn y cyflwr heterosygaidd yn cynyddu’r gyfradd ofwliad a nifer yr wyau wedi’u ffrwythloni sy’n cael eu mewnblannu, ac felly mae ganddo’r potensial i wella’r ganran wyna cyhyd ag y gellir cynnal goroesedd yr wyn.
Felly, fe allai’r genyn Inverdale, mewn brid hyrddod bridio priodol, gynnig ffordd i ffermwyr Mynydd/Tir Uchel Cymru gynhyrchu defaid benyw croesfrid cyfnewid i’w gwerthu i gynhyrchwyr llawr gwlad sy’n cynhyrchu wyn croesfrid-hyrddod terfynol sy’n gallu bodloni gofynion y farchnad yn well. Fe ddylai’r mamogiaid croes-Inverdale hyn fod â gwerth ychwanegol, gan ddenu pris uwch na’r famog Miwl/Hanner Brid safonol. Hefyd, fe ddylai’r strategaeth hon o groesfridio fod â’r fantais ychwanegol o ddarparu wyn gwedder â charcasau o well ansawdd a mwy o werth. Fe allai’r naill fantais a’r llall gael effaith bwysig ar gyllid menter yng Nghymru wrth gael eu cyflwyno fel rhan o raglen fridio reoledig.
Sut fydd y prosiect yn gweithio?
Bydd y prosiect hwn yn cynnig gwerthusiad manwl o reolaeth a pherfformiad:
(i) wyn gwedder o famogiaid mynydd Cymreig a hyrddod o deip Texel â’r genyn Inverdale yn cael eu meincnodi yn ôl grwp cyfoedion o wyn gwedder o hyrddod Wyneblas Caerlyr;
(ii) asesiad o berfformiad biolegol ac economaidd mamogiaid croesfrid a’u hwyn croes-hwrdd terfynol (Charollais) yn ôl grwp cyfoedion o ddefaid Miwl Cymreig.
Pwy fydd yn gwned y gwaith?
Bydd y prosiect yn cael ei weithredu yn y Sefydliad Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru Aberystwyth
Noddir y prosiect gan HCC ac Innovis Cyf.