Optimeiddio Pwysau Aeddfed ar gyfer Effeithlonrwydd a Phroffidioldeb Fferm
Cynhaliodd AbacusBio Ltd. brosiect ymchwil ar Optimeiddio Pwysau Aeddfed ar gyfer Effeithlonrwydd a Phroffidioldeb Fferm, ar gyfer tri bwrdd ardoll Prydain Fawr (HCC, QMS ac AHDB). Cyhoeddwyd yn 2019, ac amlygodd yr ymchwil bwysigrwydd recordio perfformiad, ac nad yw ‘trymach bob amser yn well’ o ran pwysau aeddfed anifeiliaid bridio.