Llyngyr yr Iau
Mae llyngyren yr iau yn barasit sy’n debyg i ddeilen fflat ac sydd i’w chael yn nwythell y bustl mewn afu. Mae cylchred bywyd llyngyren yr iau yn dibynnu ar falwoden y llaid, Galba truncatula.
Bydd llyngyr yr iau llawn-dwf yn afu’r fuwch yn cynhyrchu wyau sy’n cael eu trosglwyddo i’r borfa.
Mae’r wyau hyn yn deor mewn amodau llaith i gynhyrchu larfâu symudol sydd wedyn yn heintio’r falwoden.
Bydd y llyngyr yn datblygu yn y falwen hyd nes cyrraedd cam arnofiol arall sy’n cyfanheddu ar y borfa.
Bydd y rhain wedyn yn cyrraedd cam ansymudol ac ymwrthol dros ben. Unwaith y cânt eu bwyta gan fuwch, byddant yn deor ac yn symud i’r afu.
Mae’r holl arwyddion yn y fuwch yn ganlyniad i ddifrod i’r afu, ac mae’r symptomau’n amrywio gan ddibynnu ar nifer y llyngyr sydd yn yr afu. Mae’r clefyd yn fwy cyffredin yn yr ardaloedd gorllewinol a gwlypaf o’r DG ac Iwerddon, ac mae lefelau’r heintiad yn dibynnu ar faint o law sy’n disgyn o fis Mai tan fis Hydref. Yn ardaloedd gwlypaf y DG, mae’r dosbarthiad yn dibynnu’n llwyr ar bresenoldeb y cynhaliwr, sef y falwen. Dim malwod, dim llyngyr yr iau.
Arwyddion Clinigol
Yn y DG mae llyngyr yr iau yn tueddu i fod yn fwy difrifol mewn defaid a geifr a gall wneud niwed sylweddol i wartheg. Maen gwartheg, mae llyngyr yr iau fel arfer yn glefyd is-acíwt neu gronig. Y prif arwyddion yw:
- Colli pwysau cynyddol
- Llai o laeth
Mae’r arwyddion llai cyffredin yn cynnwys:
- Gên-botel
- Chwydd yn yr abdomen am fod hylif yn crynhoi (dropsi’r bol).
Diagnosis
- Yn ôl yr arwyddion clinigol a ddisgrifir uchod.
- Cyfrifiad wyau ysgarthol: gallai presenoldeb unrhyw wyau fod yn arwydd o heintiad llyngyr yr iau.
- Gall eich milfeddyg gynnal profion gwaed a fydd yn dangos graddau a difrifoldeb niwed i’r afu.
Triniaeth
Mae nifer fawr o feddyginiaethau gwrthlyngyrol ar gael i drin llyngyr yr iau mewn gwartheg. Am fod llyngyr yr iau yn dueddol o fod yn gronig, bydd y rhan fwyaf yn effeithiol, ond mae’n well cael cyngor y milfeddyg os nad ydych wedi trin llyngyr yr iau o’r blaen.
Atal
- Pan fo llyngyr yr iau yn bresennol, gall cadw gwartheg allan o gynefinoedd malwod nodweddiadol (tiroedd isel a gwlyb, ymylon pyllau) leihau heintiad llyngyr iau, ond mae’n gwbl amhosibl atal malwod yn llwyr ac mae hefyd yn anodd adnabod pob safle malwod.
- Gall draenio fod o gymorth wrth leihau niferoedd y malwod.
- Defnyddiwyd cemegau i leihau nifer y malwod, ond dydy’r cemegau ddim ar gael mwyach.Wrth ddilyngyru gwartheg yn rheolaidd yn Rhagfyr/Ionawr, dylai fod modd i reoli llyngyr yr iau mewn blynyddoedd pan nad oes gormod o law.
- Os yw’r glawiad yn drwm, gall y bydd angen dos ychwanegol ym mis Mai ar wartheg a fu allan dros y gaeaf.
Richard Laven PhD BVetMed MRCVS
Hawlfraint © NADIS 2003
Mae gwybodaeth bellach am reoli llyngyr yr iau mewn defaid ar gael ar wefan SCOPS