Y Clafr
Mae’r clafr yn cael ei achosi gan widdonyn (Psoroptes ovis) ac mae’n cael ei drosglwyddo gan gyffyrddiad uniongyrchol â defaid neu wrthrychau heintiedig. Mae gwiddon y clafr yn byw ar wyneb y croen ac yn achosi alergedd i’w baw – a hyn sy’n peri i ddefaid grafu.
Gall ddigwydd unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond yn aml bydd yn ymddangos yn sydyn yn y ddiadell pan fo’r defaid yn cael eu rhoi dan do dros y gaeaf.
Mae symptomau’r clafr yn debyg iawn i’r symptomau sy’n cael eu hachosi gan lau (Bovicola ovis). Mae’n hanfodol cael diagnosis cywir cyn rhoi triniaeth oherwydd dydy’r holl gynhyrchion sy’n trin y clafr ddim yn effeithiol rhag llau – ac i’r gwrthwyneb. Mewn gwirionedd, yr unig ffordd effeithiol i drin y clafr a llau yw dipio’r defaid mewn baddon yn cynnwys dip organoffosffad (OP). Mae triniaethau cemegol eraill sydd ar gael yn trin naill ai’r clafr neu lau – ond nid y ddau gyda’i gilydd. Rhaid cymryd gofal a gwneud yn siwr fod gennych y cynnyrch priodol i drin y parasit sy’n creu problem. Mae modd cael y diagnosis cywir wrth ofyn i’ch milfeddyg gymryd sampl o wlân ac adnabod y parasit o dan ficrosgop. I gael rhagor o wybodaeth ynglyn â sut i drin y clafr a llau, mynnwch air â’ch milfeddyg a chyfeiriwch at y daflen am Meddyginiaethau trwyddedig i drin parasitiaid allanol ar ddefaid.
Rhwng Tachwedd 2006 a Mawrth 2007 bu HCC, â chymorth gan Gyswllt Ffermio a Bwrdd Gwlân Prydain, yn cynnal arolwg o ffermydd defaid yng Nghymru er mwyn cael syniad o ba mor gyffredin yw ectoparasitiaid yng Nghymru.
Dangosodd yr arolwg fod 11.6%, 57.5%, 11.1% a 15% o ffermydd Cymru, yn ôl eu trefn, yn dioddef effaith y clafr, pryfedu, trogod a llau.
Hefyd, dangosodd yr arolwg nad oedd digon o ffermwyr yn rhoi cwarantin ar waith pan fo anifeiliaid newydd yn cyrraedd y fferm. Gall defaid gario gwiddon y clafr am sawl wythnos heb ddangos unrhyw symptomau. Felly, dydy’r ffaith fod anifeiliaid rydych newydd eu prynu ddim yn crafu ddim yn golygu nad oes ganddyn nhw widdon y clafr a allai heintio eich diadell. Dylech gadw pob anifail sy’n cyrraedd y fferm ar wahân am dair wythnos a rhoi triniaeth rhag y clafr – os oes arwyddion o’r clafr ai peidio.
Mae adroddiad llawn am ganfyddiadau’r arolwg ar gael yma