Geneteg diffyg elfennau
Geneteg diffyg elfennau hybrin mewn defaid mewn perthynas â chynhyrchedd, ffrwythlondeb ac iechyd
Y broblem: Gall diffyg elfennau hybrin megis cobalt (h.y. fitamin B12), sylffwr, seleniwm a sinc amharu ar gynhyrchedd, ffrwythlondeb ac iechyd anifail. Wrth ddadansoddi cofnodion o’r canolfannau VLA/SAC ar draws Prydain rhwng 1999 a 2011, datgelwyd bod oddeutu 7% o ddefaid yn dioddef o ddiffyg cobalt rhwng misoedd Gorffennaf a Medi bob blwyddyn. A gwybod sut mae diffyg cobalt yn effeithio ar dwf ŵyn, mae hyn yn cyfateb i golled dymhorol o £5.3 miliwn i’r diwydiant. Mae’r colledion blynyddol yn fwy, pan ystyrir gwerthiannau ŵyn ar adegau eraill o’r flwyddyn ynghyd â bod mwy o famogiaid yn anffrwythlon, bod mwy o golledion newydd-anedig, a bod anifeiliaid yn fwy tueddol o ddioddef o barasitiaid. Byddai darparu elfennau hybrin proffylactig atodol ar gyfer yr holl famogiaid ac ŵyn yn costio hyd at £35 miliwn yn flynyddol i’r diwydiant a byddai’n wastraffus oherwydd ni fydd pob anifail yn cael budd. Ar ben hyn, mae dulliau o roi elfennau hybrin atodol (yn enwedig drensio byrdymor) yn ymwthiol a gallai eu rhoi yn aml beryglu lles anifail.
Y dystiolaeth: Mae’r diffygion elfennau hybrin a restrir uchod yn ymyrryd ar gyfres benodol o lwybrau metabolig y cyfeirir atynt yn gyfunol fel metaboledd un-carbon (1C). Mae cobalt (B12), sylffwr a sinc yn ganolog i’r llwybrau metabolig hyn; mae effeithiau seleniwm yn llai uniongyrchol. Gwyddom hefyd fod tueddiad anifeiliaid i ddioddef o’r diffygion elfennau hybrin hyn a’u hymateb i elfennau hybrin atodol yn amrywiol, ac mae rheswm da dros gredu fod llawer o’r amrywiad hyn yn eneteg ei darddiad a bod amrywolion yn bodoli mewn cydrannau o fetaboledd 1C.
Amcanion: Canfuwyd tua 40 o enynnau sy’n amgodio ensymau, proteinau cludo a molecylau dargludo sydd yn ganolog i fetaboledd 1C. Cynigir bod cellwyriadau (h.y. amryffurfeddau niwcleotid sengl (SNP)) yn y genynnau hyn yn gyfrifol am lawer o’r amrywiad genetig mewn ymateb i ddiffygion elfennau hybrin ac ymatebion i atchwanegiad. Cynhelir cyfres o arbrofion i (i) canfod SNP yn y genynnau hyn, (ii) canfod pa SNP neu gyfuniadau o SNP sy’n bwysig – h.y. yn arwain at ymyraethau mewn metaboledd 1C (bydd llawer heb unrhyw effaith a gellir eu diystyru), a (iii) cynnal dwy astudiaeth gynhyrchedd ‘profi cysyniad”, y naill gydag ŵyn ifainc a’r llall gyda mamogiaid magu, er mwyn dangos fod dewis ar sail yr SNP hyn yn arwain at welliannau gwirioneddol yn nhwf ŵyn, ffrwythlondeb mamogiaid ac iechyd mamogiaid/ŵyn.
Pethau y gellir eu darparu ac allgymorth: Erbyn diwedd yr astudiaeth dair blynedd hon, datblygir llwyfan trwybwn-uchel er mwyn sgrinio diadelloedd i ganfod eu tuedd i fod â diffyg metabolion fel cobalt (B12). Bydd hyn yn hwyluso (a) canfod niferoedd hydrin o SNP a fydd yn caniatáu sgrinio hyrddod o fridiau gwahanol yn hyderus. Fodd bynnag, bydd gweithio gydag un brid i ddechrau yn galluogi canfod hyrddod risg-isel a risg-uchel fel bod bridwyr yn gallu dewis epil â llai o duedd i fod, er enghraifft, â diffyg cobalt (B12). (b) Sefydlu diadell breswyl ddewisol o famogiaid yn Sutton Bonington, â phroffiliau SNP cyferbyniol, ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol wedi’u noddi gan y diwydiant a allai, er enghraifft, brofi effeithiolrwydd gwahanol atchwanegion elfennau hybrin sy’n cael eu rhoi ar gyfnodau allweddol yn y cylch cynhyrchu blynyddol (e.e. cyplu, beichiogrwydd hwyr, diddyfnu). Bydd hyn yn help i ddatblygu strategaethau effeithiol ar gyfer rhoi elfennau hybrin atodol i anifeiliaid ymatebol er mwyn cymharu’r effeithiolrwydd/buddion â statws anifeiliaid sydd yn enetig oddefgar.
Mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan HCC, EBLEX ac Agrisearch ac yn cael ei weithredu gan Brifysgol Nottingham.