Gwasarn Amgen i Anifeiliaid
Cynhaliwyd y Prosiect Naddion Pren ar gyfer Gwasarn Da Byw o fis Rhagfyr 2005 tan fis Mai 2008 er mwyn gwerthuso potensial naddion pren yn lle gwellt yn wasarn dan do i ddefaid a gwartheg cig eidion.
Ar hyn o bryd, gwellt yw’r gwasarn mwyaf poblogaidd a ddefnyddir yng Nghymru ond amcangyfrifir bod y gost i ddiwydiant yn £12.5 miliwn y flwyddyn. Gan y bod disgwyl y gallai gwellt fynd yn ddrutach, mae ffermwyr yn chwilio am wasarn amgen yn lle gwellt a chan fod pren yn adnodd lleol yng Nghymru, mae naddion pren yn dod yn fwy poblogaidd. Fodd bynnag, mae angen arweiniad clir ar ffermwyr a gwybodaeth glir am addasrwydd naddion pren fel gwasarn a’i effaith ar iechyd lles a pherfformiad anifeiliaid yn ogystal â’r gost o’i ddefnyddio. Roedd angen gwybodaeth hefyd am le y gellir cael deunydd addas ynghyd â dealltwriaeth am y defnydd posibl y gellir gwneud ohono ar ôl cael ei ddefnyddio fel gwasarn.
Roedd y prosiect yn cynnwys nifer o astudiaethau ac arddangosiadau i fynd i’r afael â’r testunau canlynol:
Caffael a chynhyrchu naddion pren
- Ffynonellau naddion pren
- Math o beiriannau naddu pren
- Rhywogaeth pren
- Cynnwys lleithder a’r technegau sychu gorau
- Maint a ffurf y naddion pren
Systemau rheoli
- Y math o adeilad
- Man bwydo – crafu i lanhau neu fwydo’r peiriant naddion pren
- Amlder y gwasarn
- Trwch y gwasarn
- Effaith ar ddiet anifeiliaid
- Gofynion llafur
Iechyd a lles anifeiliaid
- Materion iechyd e.e. cloffder a llid yr ysgyfaint
- Glendid anifeiliaid
- Perfformiad – o ran pwysau a chymeriant bwyd
- Lles – yr amser a dreulir yn gorwedd ar y gwasarn
Rheoli naddion pren ar ôl iddynt gael eu defnyddio fel gwasarn
- Compostio gwasarn naddion pren
- Dewisiadau i ddefnyddio’r deunydd a gompostiwyd
Effeithlonrwydd cost
- A yw’n gost-effeithiol defnyddio naddion pren yn wasarn?
- A oes marchnad ar gyfer naddion pren wedi’u compostio?
Dilynwch y linc isod i ddarllen yr adroddiad llawn.