Rheoli Glaswellt a Phorthiant
Mae’r hinsawdd yng Nghymru’n ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu glaswellt. Hon yw’r ffynhonnell fwyd rataf ar gyfer da byw cnoi cil a gellir sicrhau’r cyflenwad gorau posibl gyda rheolaeth ofalus. Bydd sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl o laswellt yn gostwng costau cynhyrchu a hefyd yn lleihau’r allyriadau NTG posibl.
Un ffactor bwysig ar gyfer defnydd effeithlon o laswellt yw sicrhau’r defnydd gorau o’r holl ardaloedd pori a phorthiant. Dylid defnyddio ffyn glaswellt yn rheolaidd i fesur hyd y glaswelltyn; bydd hyn o gymorth i wybod pryd ddylid symud y da byw o un cae i gae arall er mwyn sicrhau’r cynhyrchiant gorau.
Ceir arferion rheoli glaswellt a phorthiant eraill amrywiol a all gael effaith ar allyriadau NTG. Ymhlith y rhain mae’r canlynol:
- Y defnydd o Rygwellt Llawn Siwgr mewn glaswellt – gweler y Rhestri o Laswelltau a Meillion a Argymhellir am fanylion.
- Y defnydd o feillion i sicrhau gwell cynhyrchiant gyda’r fantais ychwanegol o leihau’r gofynion am wrtaith.
- Gall defnyddio porthiant arall wella cynhyrchiant hefyd e.e. ysgellog, bresych ac indrawn.