Rheoli Maetholion
Fel gyda glaswellt, bydd rheoli maetholion ar fferm mewn ffordd effeithlon yn arwain at well cynhyrchiant a hefyd yn sicrhau manteision eraill i’r amgylchedd.
Mae datblygu a defnyddio cynlluniau rheoli maetholion yn sicrhau bod tail a slyri’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn ddiogel. Mewn ardaloedd a chynlluniau penodol (e.e. Parthau sy’n Agored i Nitradau (PAN) a chynlluniau sicrwydd ffermydd), mae’n ofynnol i ffermwyr gwblhau cynlluniau rheoli maetholion, ond gall y defnydd o’r cynlluniau hyn brofi’n adnodd rheoli gwerthfawr ar gyfer pob fferm gan eu bod yn darparu amlinelliad strwythuredig o sut ddylid defnyddio tail a slyri yn ystod y flwyddyn.
Dylai cynlluniau rheoli maetholion llwyddiannus nid yn unig ganolbwyntio ar y defnydd gorau o ffynonellau maeth ychwanegol ond hefyd ar sut i osgoi erydiad pridd a cholli maetholion. Gall erydiad pridd yn arbennig gael effaith niweidiol ar gynhyrchu, a hefyd cynyddu allyriadau NTG.
Gallai asesu statws maetholion (N,P,K) caeau yn gywir cyn defnyddio gwrtaith nid yn unig leihau allyriadau ond hefyd arbed amser ac arian. Bydd cynnwys meillion yn y glaswellt hefyd yn lleihau’r ddibyniaeth ar wrtaith artiffisial.
Mae’r enghreifftiau hyn a grybwyllir uchod yn dangos sut gallai newidiadau bychain i’r gwaith o reoli maetholion ar ffermydd gael effaith gadarnhaol ar yr allyriadau NTG o gynhyrchu cig coch.