Ôl Troed Carbon
Nodau’r prosiect
Nod y prosiect hwn yw adeiladu ôl-troed carbon ar gyfer cynhyrchu cig oen ar sawl gwahanol fath o fferm yng Nghymru.
Pam mae’n bwysig?
Mae amaethyddiaeth yn uniongyrchol gyfrifol am gynhyrchu rhai nwyon ty gwydr, gan gynnwys deuocsid carbon, ocsid nitrus a methan. Mae methan yn cael ei gynhyrchu’n bennaf gan anifeiliaid sy’n cnoi cil a gwastraff anifeiliaid, ac mae deuocsid carbon ac ocsid nitrus yn dod allan o’r pridd fel rhan normal o weithrediad yr ecosystem . Fodd bynnag, gall natur y pridd a’r ffordd mae’n cael ei reoli gall effaith sylweddol ar faint o nwyon sy’n cael eu gollwng o’r pridd.
Mae amaethyddiaeth yn gyfrifol hefyd am allyriad anuniongyrchol y nwyon cynhesu byd-eang sy’n cael eu creu wrth gynhyrchu cynhyrchion amaethyddol. Mae’r nwyon yn deillio o bethau megis peiriannau, gwrteithiau, plaleiddiaid a thrydan. Mae’r defnydd uniongyrchol o danwydd ar y fferm hefyd yn cyfrannu at gynhesu byd-eang, ond ar y cyfan nid dyna’r prif gyfrannwr o’r gyfundrefn amaethyddol.
Mae nwyon ty gwydr yn cael eu rhyddhau hefyd drwy gydol y gadwyn fwyd. Yn fwyaf penodol, mae’r allyriadau uniongyrchol sy’n berthynol i drafnidiaeth a’r allyriadau anuniongyrchol sy’n berthynol i brosesu, pacio a storio. Yn olaf, gall y broses o drin bwyd yn y cartref hefyd fod yn gyfrifol am gyfran sylweddol o allyriadau nwyon ty gwydr.
Sut mae’r prosiect yn gweithio?
Bydd model yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio data sy’n bodoli ym Mhrifysgol Bangor. Yna cynhelir profion ar y model trwy fwydo data o rai o ffermydd arddangos HCC er mwyn archwilio’r canlyniadau o amrediad o gyfundrefnau cynhyrchu gwahanol. Bydd y gwaith hwn yn rhoi’r amcangyfrif cyntaf o ôl-troed carbon cynhyrchu cig oen yng Nghymru drwy ddefnyddio gwir ddata fferm.
Pwy sy’n gwneud y gwaith?
Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan Brifysgol Cymru, Bangor, ac yn cael ei ariannu gan HCC a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
I weld yr Adroddiad Terfynol, cliciwch yma