SUREROOT
SUREROOT – Gwreiddiau ar gyrfer y dyfodol – dylunio gwreiddiau trwy ddulliau systematig
Mewn ymateb i’r ffaith fod problemau’n ymwneud â glaw yn gwaethygu ac yn digwydd yn amlach yn y DG, bydd y prosiect hwn yn pennu a oes modd newid priddoedd trwy gyfrwng glaswellt lluosflwydd fel bod llai o lifogydd a sychder – a hynny heb amharu ar gynhyrchiant nac ansawdd. Mae’n adeiladu ar ganlyniadau prosiect ‘SuperGraSS’ gan BBSRC a oedd yn dangos y gellid rheoli llifogydd â hybrid Ffestwloliwm (rhygwellt/peiswellt) trwy addasu ei wreiddiau. Bydd y prosiect newydd hwn yn adeiladu ar y data rhagarweiniol hwnnw ac yn manteisio ar yr amrywiad genetig helaeth sydd ar gael o fewn rhywogaethau porthiant i addasu dynameg gwreiddiau er mwyn lliniaru effeithiau bod â dim digon neu ormod o ddŵr glaw. Bydd potensial aml-swyddogaethol y glaswelltiroedd lluosflwydd i fod yn fanteisiol yn economaidd ac amgylcheddol yn cael ei fesur trwy ddefnyddio Canolfan Ffenomeg Planhigion Cenedlaethol IBERS (NPPC) a Llwyfan Fferm safle Rothamsted Research yn North Wyke (NWFP), yn ogystal â ffermydd masnachol, gan ddefnyddio arbenigedd partneriaid academaidd a diwydiannol.
Amcanion y prosiect:
- ymchwilio i ontogenesis a mynegiant ffenoteip gwreiddiau mewn glaswellt a meillion dethol – yn annibynnol ac mewn cyfuniad – er mwyn gwella hydroleg y pridd
- gwneud i feillion a glaswellt ymateb yn well i sychdwr a defnyddio dŵr yn fwy effeithlon
- monitro perfformiad agronomig ac ansawdd porthiant ar y fferm
Mae hwn yn brosiect dros gyfnod o bum mlynedd a ddechreuodd ym mis Ebrill 2014. Mae’n cael ei wneud a’i gydlynu gan IBERS, Prifysgol Aberystwyth, gyda mewnbwn gan safle Rothamsted Research yn North Wyke. Mae nifer o gyd-arianwyr yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys HCC, AHDB, Germinal Holdings, Cymdeithas Tir Glas Prydain, Dairy Crest a Mole Valley Farmers. Mae Waitrose Cyf. hefyd yn rhan o’r prosiect, a bydd y ffermydd masnachol yn cael eu recriwtio o blith cynhyrchwyr y cwmni hwnnw.