VIA
Cymeradwyo system dadansoddi delweddau fideo (VIA) er mwyn dosbarthu carcasau wyn ym mhrydain
(Hydref 2005 – Medi 2006)
Nod
Gwerthuso potensial system VIA i ragfynegi dosbarthiad carcasau defaid a’r cynnyrch cig, gyda’r nod o hybu hyder y diwydiant mewn dosbarthiad, a gwella effeithlonrwydd.
Pam mae’n bwysig?
Mae’r systemau dosbarthiad presennol ar gyfer defaid yn dibynnu ar asesiadau â’r llygad, ac mae hyn yn golygu y gall anghysonderau unigol ddigwydd. Fel canlyniad, bydd cysondeb y modd y caiff safonau eu gweithredu eu hamau ambell waith gan y diwydiant.
Felly, mae wedi bod yn nod hirdymor i gael hyd i system wrthrychol a fyddai’n rhoi mwy o ffydd i ffermwyr yng nghysondeb y cynllun dosbarthu carcasau defaid.
Sut mae’n gweithio?
Cafodd system VIA ei gosod mewn lladd-dy defaid masnachol a chaiff ei gwerthuso dros gyfnod o bum mis.
Bydd gallu’r system i ragfynegi dosbarthiad carcasau yn cael ei gymharu â gallu panel o arbenigwyr.
Bydd hafaliadau rhagfynegiadau cynnyrch cig yn cael eu datblygu trwy gyfrwng data cynnyrch carcasau a gafodd eu cigydda yn unol â rhagofyniad cytunedig.
Pwy fydd yn gwneud y gwaith?
Bydd y gwaith ymchwil yn cael ei wneud gan y Comisiwn Cig a Da Byw (MLC).
Noddir y prosiect ar y cyd gan HCC, EBLEX, QMS, ac LMC.