Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn edrych ymlaen at gwrdd â rhanddeiliaid o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi yn Sioe Frenhinol Cymru (Dydd Llun 22 – dydd Iau 25 Gorffennaf 2024), gyda fformat a ffocws newydd i’r stondin.
Mae’r Sioe yn ddigwyddiad allweddol yn y calendr amaethyddol ac yn gyfle amhrisiadwy i drafod a dadlau’r heriau a’r cyfleoedd i’r sector cig coch. Bydd stondin HCC yn ganolfan brysur ar gyfer y trafodaethau hynny, a bydd ei raglen o dderbyniadau, lansiadau, sgyrsiau a chyfarfodydd yn rhoi sylw i bynciau llosg y diwydiant.
Bydd y stondin ar ei newydd wedd yn amlygu rhai o’r meysydd allweddol y mae HCC wedi ymrwymo i’w cyflawni ar ran y talwyr ardoll, gan gynnwys gweithio tuag at gynaliadwyedd, statws premiwm a llwyddiant masnachol i sector cig coch Cymru, sganio’r gorwel ac ymchwil a datblygu. Er mwyn ehangu presenoldeb ar draws maes y sioe, bydd mewnwelediad o’r diwydiant yn cael ei rannu mewn seminarau a byddwn yn gweithio gyda'r proseswyr a'r mân-werthwyr i feirniadu cystadlaethau a chyflwyno arddangosiadau coginio.
Fel arfer, bydd Brecwast HCC yn ddechrau da i’r gweithgareddau a bydd yn cynnwys Cadeirydd HCC, Catherine Smith ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS. Mae derbyniad Ysgoloriaeth HCC hefyd yn parhau, pan fydd enillydd Ysgoloriaeth 2024 yn cael ei gyhoeddi.
Bydd aelodau menter newydd gyffrous HCC, Cig-weithio, yn cael eu cyhoeddi yn dilyn proses recriwtio lwyddiannus fis diwethaf. Nod y rhaglen newydd hon yw gweithio gyda phobl ifanc sy'n ymwneud â'r sector cig coch i ysgogi trafodaeth, cynyddu dealltwriaeth a meithrin cysylltiadau rhwng gwahanol gysylltiadau yn y gadwyn gyflenwi. Roedd yr ymateb i’w lansiad nôl ym mis Mai yn wych a bydd yr aelodau grŵp a ddewiswyd yn ymgynnull am y tro cyntaf yn y Sioe.
Amlygir dau brosiect i’r diwydiant y mae HCC yn eu cyflawni. Anogir ffermwyr gwartheg cig eidion i alw heibio bob dydd am wybodaeth am y prosiect ‘Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru’, sydd â’r nod o werthuso effaith amrywio oedran magu gwartheg cig eidion ar elw economaidd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae chwilio am ffermwyr Cymraeg eu hiaith o Geredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd a Môn ar gyfer yr astudiaeth benodol hon, ac mae’r buddion i’r rhai sy’n cymryd rhan yn cynnwys archwiliadau carbon rhad ac am ddim a dadansoddiad ariannol rhad ac am ddim a allai arwain at fwy o elw i fusnesau ffermio.
Hefyd, bydd HCC yn lansio prosiect newydd ArloesiAber a fydd yn edrych ar ansawdd cig Cig Oen Cymru PGI ffres ac wedi'i rewi. Mae’r prosiect yn adeiladu ar waith a gwblhawyd yn flaenorol gan HCC yn y Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, a bydd yn llywio datblygiadau cadwyn gyflenwi a gweithgareddau masnach yn y dyfodol.
Edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos â sefydliadau eraill, gan gynnwys y Rhwydwaith Ffermio sy’n Gyfeillgar i Natur (NFFN). Cynhelir digwyddiad ar y cyd ar stondin HCC ynghylch ffermio gwrthdywydd, gyda’r arbenigwr iechyd pridd, Niels Corfield, a dau ffermwr o Gymru, Rhodri Lloyd-Williams ac Aled Picton Evans, a fydd yn cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdrin yn well â digwyddiadau tywydd eithafol tra’n cynyddu elw neu hyd yn oed gynyddu cynnyrch.
Bydd Swyddog Defnyddwyr HCC, Elwen Roberts, yn gweithio gyda CFfI Cymru i feirniadu un o’u cystadlaethau coginio. Bydd hefyd yn cyflwyno arddangosiad coginio byw i S4C ac arddangosiadau coginio dyddiol mewn partneriaeth ag M&S i ddathlu eu strategaeth cyrchu Cig Oen Cymru.
Bydd Rachael Madeley Davies, Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC yn rhan o drafodaeth banel UAC ar ddiogelwch bwyd, a bydd yn cymryd rhan yn seminar CffI Cymru ar ‘Sicrhau dyfodol mewn ffermio i’r genhedlaeth nesaf.’
Dywedodd Laura Pickup, Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau yn HCC, a fydd yn ymuno â phanel o feirniaid fel rhan o gystadleuaeth stêc flynyddol Tesco: “Rydym yn teimlo’n gyffrous o fod yn treialu presenoldeb newydd yn y Sioe eleni. Efallai y byddwn yn edrych yn wahanol, ond yr un fydd ein nod yn y pen draw. Edrychwn ymlaen at rannu gwybodaeth am ein gweithgareddau marchnata diweddaraf yn y marchnadoedd domestig ac allforio, ac at frwydro cornel y diwydiant o ran ei bwysigrwydd a'i werth i'r economi, a hefyd rhinweddau iechyd a chynaliadwyedd y cynhyrchion.
“Byddwn yn yr un lle ag arfer; felly, dewch i’n gweld ac i ymuno yn ein digwyddiadau. Mae croeso cynnes a phaned yn eich disgwyl.”
Mae’r gweithgareddau a ganlyn wedi’u trefnu (gall yr union amserau newid):
Dydd Llun 22 Gorffennaf 2024
8.00 Brecwast HCC. Derbyniad brecwast gyda Chadeirydd HCC, Catherine Smith, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS (*trwy wahoddiad yn unig – cysylltwch â swyddfa’r wasg HCC am fanylion).
10:00-12:00 & 14:00-16:00
Sesiynau galw heibio. Dysgwch fwy am sut y gallwch fod yn rhan o brosiect newydd HCC ar ‘Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru’. Ariennir gan Gronfa Her ARFOR.
Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024
10:30 Cyflwyniad a thrafodaeth banel ar ffermio gwrthdywydd gyda’r Rhwydwaith Ffermio sy’n Gyfeillgar i Natur (NFFN). Ymunwch â’r arbenigwr iechyd pridd, Niels Corfield, a ffermwyr o Gymru, Rhodri Lloyd-Williams ac Aled Picton Evans, am drafodaeth banel ac awgrymiadau ymarferol ar sut i ddod yn fwy gwydn wrth ddelio â digwyddiadau tywydd eithafol, tra’n cynyddu elw.
14:00 Cyfarfod Cig-weithio (*trwy wahoddiad yn unig - cysylltwch â swyddfa'r wasg HCC am fanylion).
HCC yn lansio ein rhaglen 12-mis newydd i ddatblygu a chefnogi’r gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru.
Gweithgaredd i ffwrdd o’r stondin:
10:00 Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, Elwen Roberts yn beirniadu cystadleuaeth goginio’r CFfI.
10:45-11:15 Bydd HCC yn ymuno â Kepak i feirniadu cystadleuaeth Stêc Cig Eidion Cymru a Rag Cig Oen Cymru. Cyhoeddir yr enillwyr rhwng 13:30-13:50.
16:00 Arddangosiad coginio Elwen Roberts ar stondin M&S.
Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2024
10:00-12:00 & 14:00-16:00
Sesiynau galw heibio. Dysgwch fwy am sut y gallwch chi fod yn rhan o brosiect newydd HCC ar ‘Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru’. Ariennir gan Gronfa Her ARFOR.
11:00 Lansio prosiect Cig Oen Cymru PGI ac ArloesiAber.
Bydd HCC yn lansio eu prosiect lle byddant yn cymharu ansawdd cig Cig Oen Cymru PGI ffres ac wedi'i rewi.
Gweithgaredd i ffwrdd o’r stondin:
11:30 Arddangosiad coginio Elwen Roberts ar stondin S4C.
16:00 Arddangosiad coginio Elwen Roberts ar stondin M&S.
Dydd Iau 25 Gorffennaf 2024
10:00am ‘Diogelu Dyfodol mewn Ffermio i’r genhedlaeth nesaf’.
Seminar wedi’i drefnu a’i gynnal ar y cyd gan CFfI Cymru yn trafod dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
11:00am Derbyniad Ysgoloriaeth HCC. Cyhoeddir enillydd Ysgoloriaeth HCC 2024 (*trwy wahoddiad yn unig – cysylltwch â swyddfa’r wasg HCC am fanylion).
Gweithgaredd i ffwrdd o’r stondin:
16:00 Arddangosiad coginio Elwen Roberts ar stondin M&S.