Yn ddiweddar, bu Cig Oen Cymru PGI yn rhan o ddigwyddiad arddangos y Te Hwyr Uchaf yn Dubai mewn cydweithrediad â Llysgenhadaeth Prydain a’r ymgyrch Food is Great.
Digwyddodd hyn yn y Burg Khalifa byd-enwog lle roedd Cig Oen Cymru PGI ar fwydlen prynhawnbryd dan ofal y cogydd Michelin, Vineet Bhatia.
Roedd llu o unigolion dylanwadol o’r byd bwyd a diod ffyniannus yn Dubai, gan gynnwys dylanwadwyr a phrynwyr, yn bresennol. Yno, hefyd, roedd Conswl Cyffredinol Ei Fawrhydi i Dubai ac Emiradau’r Gogledd, Oliver Christian.
Uchafbwynt bwydlen yr achlysur oedd Cig Oen Cymru wedi’i gyflenwi gan Dunbia.