Adnoddau Iechyd a Lles Anifeiliaid
Mae safonau uchel o iechyd a lles yn bwysig o ran cynhyrchedd, effeithlonrwydd, a chysyniad pobl am ffermydd yng Nghymru. Mae HCC yn darparu gwybodaeth i ffermwyr sydd am wybod mwy am y pynciau technegol hyn trwy gyfrwng cyfarfodydd, digwyddiadau a chyhoeddiadau i’r diwydiant.
Datblygu cynllun iechyd anifeiliaid gyda’ch milfeddyg yw’r ffordd orau i gynllunio ar gyfer rheoli’r clefydau a materion iechyd sydd fwyaf tebygol o godi ar eich fferm. Mae’n gyfle i drafod gyda’ch milfeddyg unrhyw broblemau a gawsoch ac i ddatblygu strategaeth ar gyfer rheoli a thrin y materion hyn yn y dyfodol. Y ffermwyr hynny sydd yn trafod a diweddaru eu cynlluniau iechyd yn rheolaidd gyda’u milfeddyg sydd fwyaf llwyddiannus yn rheoli clefydau sy’n achosi problemau ariannol difrifol megis Ysgothi Firol Gwartheg (BVD), cloffni, llyngyr yr iau a llyngyr main.