Mae Hybu Cig Cymru wedi tynnu sylw at fanteision iechyd a maeth cig coch Cymru yn y cylchgrawn plant dylanwadol, Healthy Child with Dr Ranj Singh.
Mae erthyglau nodwedd a gwybodaeth am rinweddau iechyd cig coch Cymru a'i rôl mewn diet a ffordd iach o fyw yn cael sylw amlwg yn y cylchgrawn sydd wedi'i anelu at rieni a theuluoedd. Caiff y cylchgrawn chwarterol ei werthu yn siopau WH Smith ac mae modd cael hyd iddo hefyd mewn llawer o feddygfeydd ac ystafelloedd aros deintyddion ledled Prydain. Cafodd ei dargedu at rieni plant ifainc ac mae'n ymdrin ag ystod o bynciau iechyd a chymdeithasol sy'n ymwneud â phlant.
Mae gwybodaeth am faetholion Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, gan gynnwys eu protein naturiol, fitaminau B, sinc a haearn, hefyd wedi’u cynnwys mewn cylchlythyr cyfatebol sy’n cyrraedd dros 155,000 o danysgrifwyr. Mae postiadau cyfryngau cymdeithasol a chystadleuaeth i ennill hamper Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru hefyd wedi bod yn rhan o'r bartneriaeth – yn ogystal â hysbysebion digidol a fydd yn cael 93,000 o ymweliadau dros gyfnod o fis.
Yn ogystal â rhoi sylw i syniadau am ryseitiau iach fel Chow Mein Cig Eidion Cymru a Chwpanau Letys Cig Oen Cymru, mae’r erthygl yn adlewyrchu’r ffordd naturiol a moesegol y mae cig coch Cymru yn cael ei gynhyrchu, gan ddefnyddio glaswellt a dŵr glaw naturiol i greu protein maethlon sydd â blas nodedig.
Dywedodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill: “Roeddem yn falch dros ben o allu hyrwyddo’r manteision maethol a’r ansawdd rhagorol sydd gan Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn rhan bwysig o’n gwaith ymgyrchu ymhlith defnyddwyr, gan sicrhau y gall teuluoedd a rhieni dderbyn gwybodaeth ffeithiol am Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o ffynonellau credadwy fel y cylchgrawn Healthy Child.”
Daw hyn i gyd yn ystod ymgyrch ehangach Cig Oen Cymru: Arbenigwyr yn eu Maes a gafodd ei lansio yn gynharach eleni yn Sioe Frenhinol Cymru ac a fydd yn para tan ddiwedd mis Hydref. Mae'r ymgyrch yn cynnwys hysbysebion teledu ar Sky, ITV ac S4C, yn ogystal â hysbysebion print a digidol ledled Cymru a rhannau o Loegr, i hyrwyddo Cig Oen Cymru fel cynnyrch cynaliadwy o ansawdd uchel.