Mae’r gystadleuaeth flynyddol yn ôl ac yn llawn cyffro
Mae cystadleuaeth HCC, ‘Cyflwynwch Eich Selsig Gorau’, yn ôl ar gyfer ei chweched blwyddyn – ac eleni mae cyfle i gynhyrchwyr porc gystadlu mewn dau gategori.
Y tro hwn mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn yr hydref ac mae gan gynhyrchwyr porc ddau gyfle i gael eu coroni am y selsig gorau yng Nghymru – yng nghystadlaethau Selsigen Borc Draddodiadol Orau’r Flwyddyn a Selsigen Borc Nadolig Orau’r Flwyddyn.
Arferai rownd derfynol y gystadleuaeth gael ei chynnal yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, ond eleni bydd y beirniadu yn digwydd ddiwedd mis Hydref cyn cael dathliad arbennig yn y Ffair Aeaf pan gyhoeddir enwau’r enillwyr.
Gofynnir i gystadleuwyr yn y naill gategori a’r llall gyflwyno chwe selsigen heb eu coginio a chwe selsigen wedi'u coginio er mwyn sicrhau proses feirniadu gadarn a thrylwyr.
Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, sy’n beirniadu’r gystadleuaeth: “Eleni bu’n rhaid i ni greu dau gategori gan fod nifer a safon y selsig yn y blynyddoedd blaenorol wedi bod mor uchel. Dros y chwe blynedd diwethaf, rydym wedi rhyfeddu pa mor greadigol ac uchel eu safon fu’r selsig ac rwy’n siŵr na fydd eleni yn wahanol.”
Ychwanegodd Elwen: “Rydym yn arbennig o gyffrous ynghylch ein categori newydd – y Selsig Porc Nadolig Gorau ac yn edrych ymlaen at weld pa gyfuniadau o flasau Nadoligaidd gaiff eu cynnig gan ein cynhyrchwyr porc arloesol.”
Yn ogystal ag ennill tlws Cyflwynwch eich Selsig Gorau, bydd yr enillwyr yn y naill gategori a’r llall yn destun fideo astudiaeth-achos y gallant ei ddefnyddio mewn ymgyrchoedd marchnata yn y dyfodol.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i aelodau Porc Blasus a rhaid defnyddio porc o Gymru. Dylai pawb sydd â diddordeb mewn cystadlu lenwi’r ffurflen ar-lein ar wefan Porc Blasus erbyn 21 Hydref a rhaid i geisiadau gyrraedd Swyddfeydd HCC yn Aberystwyth naill ai ar 23 neu 24 Hydref. Mae’r manylion llawn, gan gynnwys telerau ac amodau a ffurflen gais ar-lein, i gyd ar wefan Porc Blasus.