Mae corff ardoll cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC) yn parhau â’i ymgyrch i fynd â negeseuon am gig coch i ysgolion ac athrawon drwy arddangos mewn cynhadledd addysg genedlaethol.
Bydd HCC yn arddangos yn y Sioe Addysg Genedlaethol, a gynhelir yng Nghaerdydd ddydd Gwener 4 Hydref, pan fydd yn siarad ag athrawon am bob agwedd ar ffermio a chynhyrchu cig coch yng Nghymru, yn ogystal â rhannu adnoddau i athrawon, gan gynnwys y cylchlythyr diweddaraf ar eu cyfer a fideos newydd.
Mae'r digwyddiad yn agored i weithwyr proffesiynol ar draws y sector addysg, gan gynnwys athrawon cynradd ac uwchradd, gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar a staff addysg bellach ac uwch. Mae'r digwyddiad yn cynnig seminarau a chyfleoedd i rwydweithio, yn ogystal ag arddangosfa.
Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, sy’n arwain gwaith addysgol HCC: “Mae arddangos yn y Sioe Addysg Genedlaethol yn gyfle gwych i ni gwrdd ac ymgysylltu ag athrawon ac addysgwyr Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein hadnoddau dosbarth diweddaraf a hyrwyddo ein cylchlythyr i athrawon, ‘The Kitchen Classroom / Gwersi o’r Gegin’ gyda’r cynrychiolwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth am gig coch yng Nghymru.”
Mae cig coch fel Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn naturiol gyfoethog mewn protein ac yn isel mewn sodiwm a gallan nhw chwarae rhan bwysig mewn diet cytbwys. Maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o faetholion sy'n cynnig ystod eang o fanteision iechyd a ffordd o fyw, megis haearn, magnesiwm, sinc a fitaminau B.
Ychwanegodd Elwen: “Mae ein hadnoddau yn ymdrin â phynciau iechyd a maeth yn ogystal â chynhyrchiant a chynaliadwyedd ffermio ac felly maen nhw’n addas ar gyfer ystod o arbenigwyr mewn gwahanol bynciau. Hefyd, cafodd ein hadnoddau eu teilwra ar gyfer cyfnodau allweddol penodol i’w gwneud mor hawdd â phosibl i athrawon eu defnyddio. Maen nhw i gyd yn rhad ac am ddim ac ar gael yn ddwyieithog, hefyd.
“Rydyn ni’n gwybod bod gweithio gyda’r genhedlaeth nesaf yn hanfodol, er mwyn sicrhau eu bod yn deall o ble mae bwyd yn dod a pha effaith mae gwahanol fwyd yn ei gael ar ein diet a’n hiechyd. Drwy weithio ac ymgysylltu ag athrawon, ein nod yw cyrraedd cynifer o bobl ifanc â phosibl a darparu adnoddau a gwybodaeth sy’n seiliedig ar ffeithiau.”
Er mwyn cofrestru i fynychu’r digwyddiad neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.nationaleducationshow.com