Mae’r asiantaeth hyrwyddo cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) yn falch i barhau â’r gefnogaeth ar gyfer Bord Gron y Bridwyr Defaid, cynhadledd dechnegol ar gyfer bridwyr defaid, ffermwyr, academyddion, ymgynghorwyr a chynrychiolwyr o’r diwydiant.
Bydd y gynhadledd, sy’n digwydd bob yn ail flwyddyn, yn dwyn y teitl Bridio defaid am ddyfodol gwyrddach yn ymdrin ag amrywiaeth eang o destunau bridio defaid o fewn y maes geneteg ehangach. Bydd siaradwyr arbenigol o bell ac agos, rhai mor bell ag Awstralia, yn rhannu’u harbenigedd a’u mewnwelediad i ddatrysiadau cynaliadwy, hyfywedd y diwydiant, cyfeiriad polisi, proffidioldeb, bridio i ateb gofynion y farchnad ac enw da y sector.
Fe gyflwynir amrywiaeth nodedig o brosiectau ac astudiaethau ar y diwydiant defaid yn ogystal, yn cynnwys gwaith gan fyfyriwr PhD a ariannwyd gan HCC a’r Cyngor Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC), sef Emily Herschell-Kelly, ar ‘ymwrthedd cyffuriau mewn ffliwc yr iau, Fasciola Hepatica.’
Meddai Emily: “Er nad yw fy astudiaethau yn gwbl gysylltiedig â geneteg defaid, mae angen ymdriniaeth amlddisgyblaethol i ddatrys heriau iechyd mewn systemau defaid gan fod parasitiaid yn addasu’n gyflym i ddatblygu ymwrthedd i’r amrywiaeth cyfyng o gyffuriau sydd ar gael ar hyn o bryd.
“Rwy’n falch iawn i gael y cyfle i arddangos canlyniadau fy PhD yn y gynhadledd fawreddog hon.”
Meddai Dr. Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd HCC: “Mae Bord Gron y Bridwyr Defaid yn ddigwyddiad ardderchog ac rydym yn falch iawn o’i gefnogi. Rydym yn annog ffermwyr o Gymru i fynychu i gael profi’r angerdd a’r brwdfrydedd am y sector defaid sydd i’w deimlo yno, ac i ddysgu gan raglen lawn o siaradwyr arbenigol.
“Mae’n gyfle i drafod gwerth geneteg ac yn blatfform i hyrwyddo canfyddiadau ymchwil newydd, fel y rhai a gyflwynir gan Emily. Wrth rannu gwybodaeth a phrofiadau o ymwybyddiaeth a gwelliannau geneteg, gallwn weithio tuag at wella hyfywedd systemau defaid, gan fod un cam ar y blaen i newid, a pharhau i gynhyrchu cig sy’n fforddiadwy a chynaliadwy wrth weithio law yn llaw gyda’r amgylchedd naturiol.”
Mae Bord Gron y Bridwyr Defaid yn fenter gan y diwydiant gyda chydweithio ar draws cyrff ardoll y DU, AgriSearch a’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA). Fe’i cynhelir yn y Radisson Blu Hotel East Midlands, Derby ar 15-17 Tachwedd 2024. Mae’r tocynnau ar werth yn Sheep Breeders Round Table Event.
Ariannwyd ymchwil Emily drwy Bartneriaeth Hyfforddi Ddoethurol y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC DTP). Roedd y DTP yma’n brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Lerpwl a HCC.