Ddydd Gwener 1 Tachwedd, ymunodd Hybu Cig Cymru â Digwyddiad Defaid a Chig Eidion Wynnstay ym Marchnad Da Byw y Trallwng, a oedd yn gyfle i rannu gwybodaeth am y diwydiant gyda’r rhai sy’n talu’r ardoll, a phawb arall oedd yn bresennol.
Roedd y digwyddiad yn achlysur allweddol i’r sector cig eidion a defaid yng Nghymru, gyda ffermwyr, arbenigwyr a sefydliadau’r diwydiant yn dod ynghyd i rannu gwybodaeth, i drafod y tueddiadau diweddaraf ac i archwilio arferion arloesol yn y diwydiant da byw.
Roedd y diwrnod yn cynnwys stondinau ac arddangosiadau, yn ogystal â sgyrsiau a gweithdai gan amrywiaeth o arbenigwyr yn y diwydiant. Roedd hefyd yn gyfle gwych i staff Hybu Cig Cymru rannu gwybodaeth a’r arferion gorau, yn ogystal â gwybodaeth am gynaliadwyedd Hybu Cig Cymru a’r gwaith o ddatblygu'r diwydiant.
Dyma oedd gan Elizabeth Swancott, Uwch Swyddog Gwybodaeth am y farchnad ac Ymchwil a Datblygu o Hybu Cig Cymru i’w ddweud: "Gyda gwaith ymchwil, technoleg ac arferion gorau ym maes amaethyddiaeth yn esblygu'n barhaus, rydym yn falch o gydweithio â chwmnïau masnachol i rannu ein canllawiau a'n hymchwil ddiweddaraf ynghylch cynhyrchiant, proffidioldeb a chynaliadwyedd."