Mae llawer o farchnadoedd newydd, yn ogystal â’r rhai cyfredol, yn cynnig cyfleoedd twf byd-eang cyffrous ar gyfer cynhyrchion premiwm Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, clywodd cynulleidfa cynhadledd flynyddol Hybu Cig Cymru (HCC) 2024.
Thema’r gynhadledd oedd “Llwyddo mewn Marchnadoedd Byd-eang a Domestig” a dywedodd Cadeirydd HCC, Cath Smith, gan grynhoi cyfraniadau cadarnhaol i’r gynhadledd gan ddadansoddwyr o’r diwydiant:
“Mae holl gynnwys cyflwyniadau ein siaradwyr heddiw yn dangos yn glir y gallwn ddisgwyl i’r marchnadoedd yr ydym eisoes yn eu gwasanaethu fod yn awyddus i gynnal a datblygu ein partneriaethau ochr yn ochr â thiriogaethau newydd a fydd yn awyddus i drafod ffyrdd ymlaen i fasnachu â ni.”
Roedd HCC wedi gweld blwyddyn o gyflawniad cryf ac roedd yn hyderus bod mwy i ddod. Dywedodd Cath Smith fod HCC wedi cynyddu ymwybyddiaeth brand a dylanwadu ar siopwyr, gan gyrraedd bron i 24 miliwn o wylwyr yn ystod ymgyrch y DU a gwelwyd cynnydd o 26% mewn Ymwybyddiaeth Brand. Roedd gan hanner y gynulleidfa o brynwyr fwy o barch at ffermwyr Cymru ar ôl gweld hysbysebion HCC.
Roedd brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi adeiladu ar eu henw da rhyngwladol cryf ac wedi torri trwodd i diriogaethau newydd fel Japan, Teyrnas Saudi Arabia ac UDA, tra hefyd yn curo ar ddrws nifer o farchnadoedd newydd cyffrous.
“Yn draddodiadol mae 95% o’n hallforion wedi mynd i wledydd yr UE ac, er gwaethaf cynnwrf gwleidyddol domestig y blynyddoedd diwethaf, rwy’n falch o ddweud bod ein gwaith caled yn dwyn ffrwyth ac mae Ewrop yn parhau i fod yn gwsmer allweddol a brwdfrydig iawn,” meddai.
Ychwanegodd fod y diwydiant yn plethu’r Ffordd Gymreig o weithio gan ddefnyddio profiad a dyfnder gwybodaeth yr holl bartneriaid yn y diwydiant. Roedd y cydweithio hwn gan bob rhan o’r sectorau bwyd a ffermio yn ysbrydoledig ac yn deyrnged i ymrwymiad ac aeddfedrwydd y grwpiau cyfranogol.
Dywedodd Cath Smith wrth Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o brif siaradwyr y digwyddiad:
“Rwy’n gwybod nad yw’r gwaith wedi’i gwblhau eto ond rwy’n gobeithio y gallwn barhau â’r gwaith i’n galluogi i symud ymlaen gyda’n gilydd.”
Roedd y sefydliad yn symud yn gyflym yn fewnol ac roedd HCC wedi rhyddhau hysbysebion ar gyfer Prif Swyddog Gweithredol newydd, a ddisgrifiwyd gan Cath Smith fel: “rôl ganolog ac arbennig i arweinydd dylanwadol a fydd yn rhagori mewn meithrin perthynas, gan feithrin cysylltiadau cryf â Llywodraeth Cymru, ffermwyr, proseswyr, arweinwyr diwydiant a phartneriaid eraill ar draws y sector amaethyddol, a’r gadwyn gyflenwi cig coch.”
Byddant yn gyfrifol am lunio gweledigaeth newydd ar gyfer HCC; un sydd nid yn unig yn ysgogi twf cynaliadwy ond sydd hefyd yn gosod y sefydliad fel model rôl o ragoriaeth o fewn y sector o 2026 a thu hwnt.
“Wedi’i arfogi â’n cynnyrch gwych, gydag arweiniad newydd, wedi’i arwain gan lasbrint strategol newydd a chynhwysfawr, ac wedi’i ysgogi gan egni a chefnogaeth ein rhanddeiliaid, bydd HCC yn parhau i gyflawni, nid yn unig ar gyfer y genhedlaeth bresennol, ond ar gyfer y cenedlaethau i ddod,” meddai Cath Smith.