Mae’r angen i gynnal niferoedd defaid ac ŵyn yn bryder i ddiwydiant cig coch Cymru, yn ôl arolwg newydd sy’n datgelu bod y ddiadell genedlaethol bellach ar y lefel isaf y bu ers tair blynedd ar ddeg, meddai Cadeirydd Hybu Cig Cymru (HCC) wrth gynrychiolwyr y sector amaeth yn Ffair Aeaf Sioe Frenhinol Cymru.
“Tua 8.7 miliwn pen yw maint y ddiadell sydd wedi’i gofnodi am y ddwy flynedd ddiwethaf, a dyma’r lefel isaf ers 2011,” meddai Cath Smith. Roedd màs critigol o ffermydd a diadelloedd yn hanfodol i gymunedau a ffordd o fyw yng Nghymru.
“Mae'n rhaid cynnal lefel y ddiadell honno; rhaid i ni weithio'n galed iawn i amddiffyn y niferoedd hyn wrth symud ymlaen.”
Gan gyfeirio at Arolwg Ffermio Mehefin Llywodraeth Cymru sydd newydd ei ryddhau, dywedodd fod 8.75 miliwn pen o ddefaid ac ŵyn yng Nghymru ym mis Mehefin 2024, cynnydd o un y cant o’i gymharu â mis Mehefin 2023, ond mae’n dal i fod wyth y cant yn is na lefelau 2021.
“Ac roedd nifer y mamogiaid ar gyfer bridio’n y dyfodol i lawr un y cant ers y flwyddyn – ac mae’n anochel y bydd llai o ddefaid magu yn golygu llai o ŵyn flwyddyn nesaf,” meddai Cath Smith.
Roedd ystadegau o arolwg mis Mehefin yn nodi mai 1,089,800 oedd cyfanswm nifer y gwartheg a’r lloi yng Nghymru– mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 2.4% o’r ffigur ar gyfer Mehefin 2023, gyda gostyngiadau yn y fuches eidion yn fwy amlwg na llaeth.
“Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd HCC yn dadansoddi’r canlyniadau yma’n fanwl i weld beth allai hyn ei olygu i’n cynaliadwyedd economaidd a thueddiadau da byw tebygol yn y dyfodol.
“Gwyddom y bydd costau mewnbynnau ar ffermydd ac elw wrth gât y fferm yn parhau i ddylanwadu ar fwriadau ond rydym hefyd yn gwybod y bydd hyder y sector ac optimistiaeth yn y farchnad yn ysgogi newid - ac yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen hyder a sicrwydd ar y sector hwn i roi stop i’r dirywiad ac adeiladu sefydlogrwydd ar gyfer dyfodol ein ffermydd teuluol Cymreig a’u cadwyn gyflenwi cig coch,” meddai.
Dywedodd Cath Smith fod angen i'r diwydiant cig coch ddiogelu ffordd o fyw y fferm deuluol Gymreig at y dyfodol.
“Gadewch i ni edrych ar beth sydd gan y diwydiant i’w gynnig. Mae brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru HCC yn ganolog i lwyddiant diwydiant Cymru’n y dyfodol. Mae cwsmeriaid - yma, ledled y DU a ledled y byd - yn ymddiried yn ein cynnyrch pan welant y logo glas a gwyrdd llachar. Maen nhw’n ymddiried ym mhle mae’r cig hwnnw wedi dod oherwydd ei rinweddau olrhain unigryw.”
Roedd diwydiant da byw Cymru eisoes yn arwain y byd o ran cynhyrchu cig coch cynaliadwy.
“Ond ochr yn ochr â’n gwaith pwysig ar y daith i sero net, a’n gwaith anhygoel yn hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol ar lwyfan byd-eang, mae’n rhaid i’r gwaith pwysicaf oll fod ar gynaliadwyedd economaidd domestig.
“Felly sut ydyn ni wedyn yn parhau i gyflawni perfformiad amgylcheddol o'r radd flaenaf, lles anifeiliaid a sicrwydd, ac wynebu’r gystadleuaeth, sydd wedi'i hysgogi, fel y mae llawer, gan systemau ffermio dwys?
“Trwy ddod at ein gilydd – pob un ohonom sy’n rhan o’r sector – ac edrych tua’r dyfodol.”
Cyhoeddodd Cath Smith lansiad dogfen ‘Gweledigaeth’ newydd HCC, yn dilyn y glasbrint strategol blaenorol ar gyfer y diwydiant cyfan, sef ‘Gweledigaeth 2025’.
“Gyda’ch cymorth chi, bydd yn ategu’r angerdd sy’n amlwg ledled y diwydiant hwn ac yn brosbectws beiddgar, uchelgeisiol a hyderus ar gyfer dyfodol hirdymor ffermio da byw yng Nghymru.”
Dywedodd y byddai’r Weledigaeth newydd yn nodi llwybrau i helpu diwydiant unedig i fanteisio ar gyfleoedd strategol newydd ac yn mynd i’r afael â heriau a risgiau ar gyfer masnachu, cynhyrchu a phrosesu cig coch o Gymru.
“Dyma fydd cynllun ein diwydiant ar gyfer cynaliadwyedd, parhad a thwf - pa bynnag ddigwyddiadau annisgwyl sy’n cael eu taflu atom. Rhaid inni gyd wneud popeth o fewn ein gallu, ar bob lefel. Gallaf eich sicrhau fod HCC yn barod i chwarae ein rhan.
“Felly gadewch i ni edrych ymlaen - a bachu ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau; a gadewch i ni ymdrechu gyda’n gilydd, ysgwydd wrth ysgwydd, i sicrhau dyfodol i’r sector,” meddai Cath Smith.