Mae HCC yn casglu a rhannu ymchwil a gwybodaeth am y farchnad i hysbysu’r diwydiant cig coch a’r cyhoedd yn gyffredinol am dueddiadau cwsmeriaid, patrymau’r farchnad a heriau’r dyfodol.
Fel rhan o’n cyfres o fewnwelediadau marchnad ‘Rhwng y Llinellau’, mae hyn yn cynnwys adroddiadau manwl sy’n edrych ar wahanol agweddau ar y sectorau cig oen a chig eidion. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o’n mewnwelediadau marchnad isod, neu gael mewnwelediadau misol gan Glesni Phillips, neu’r Swyddog Gweithredol Cudd-wybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes trwy ein Bwletin.
Cyflenwad Cig Oen: Diweddariad a Rhagolwg
Cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024. Mae’r adroddiad yma’n edrych ar y cyflenwad o gig dafad ym marchnad y DU, yn ogystal â’r cyflenwad posibl yn y dyfodol a’r ffactorau sy’n cael dylanwad ar y gadwyn gyflenwi.
Cyflenwad Cig Eidion: Diweddariad a Rhagolwg
Mae’r adroddiad yma, a gyhoeddwyd yn Ebril 2024, yn gwerthuso ffactorau cyflenwad adre a galw rhyngwladol er mwyn asesu’r rhagolygon i’r sector cig eidion.
Tueddiadau Cynhyrchu Cig Coch Byd-eang
Cyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022. Mae’r adroddiad yn asesu sut y bydd sector cig coch Cymru’n wynebu amrywiaeth o heriau a phenderfyniadau newydd wrth gael ei effeithio gan fasnachu byd-eang a ffactorau allanol niferus eraill.
Arolwg Bwriadau Ffermwyr (ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd)
Arolwg o ffermwyr Cymru yn sgil cynnydd mewn costau a ddilynodd ymosodiad Rwsia ar Iwcrain a ffactorau eraill fu’n achos chwyddiant