Mae ffermwyr da byw yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus am arwyddion o’r feirws Schmallenberg yn eu diadelloedd a’u buchesi gan Hybu Cig Cymru (HCC).
Daw’r rhybudd i’r diwydiant ar ôl i achosion o’r feirws gael eu darganfod mewn diadelloedd yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae’n debygol y bydd yn parhau i mewn i dymor yr wyna a chyfnod lloio’r gwanwyn.
Mae’r feirws Schmallenberg yn y serogrwp Simbu o’r grŵp Orthobunyavirus. Mae’r grŵp yma o firysau hefyd yn cynnwys nifer o firysau gwahanol sydd i’w canfod yn Asia, Affrica ac Awstralia, ond nid ydynt wedi’u canfod yn Ewrop o’r blaen.
Meddai Rachael Madeley-Davies, Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC: “Ar hyn o bryd rydym ni’n gwybod bod y feirws yn gallu heintio ac achosi afiechyd mewn defaid, gwartheg a geifr. Nid yw’r feirws yn fygythiad i bobl, ond rydym ni’n annog ffermwyr i fod yn wyliadwrus er budd iechyd diadelloedd a buchesi. Gofynnwn iddynt gysylltu gyda’u milfeddyg os oes ganddynt unrhyw bryderon, a phrofi unrhyw achosion posibl o SBV i sicrhau bod unrhyw glefydau eraill yn cael eu diystyru.”