Cafodd Cig Oen Cymru PGI ran bwysig mewn digwyddiad arbennig yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Dubai yr wythnos hon, gan atgyfnerthu ei statws fel y dewis premiwm a chynaliadwy ar gyfer cig coch.
Wedi’i drefnu gan Hybu Cig Cymru (HCC), teitl y digwyddiad oedd ‘Dathliad o Gig Oen Cymru’ a gwahoddwyd pwysigion yn cynnwys prynwyr allweddol a phobl ddylanwadol o’r rhanbarth.
Clywodd y gwahoddedigion am ddulliau ffermio cynaliadwy ffermwyr Cymru. Tynnwyd sylw at hinsawdd a thopograffi Cymru sy’n ei wneud yn un o’r llefydd mwyaf cynaliadwy yn y byd i gynhyrchu cig coch ac, yn bwysicach, sut mae hyn yn creu blas ac ansawdd diguro ac unigryw i Gymru.
Cafwyd annerchiad hefyd gan Ei Fawrhydi’r Comisiynydd Masnach a’r Prif Gonswl, Oliver Christian. Mwynhaodd y gwesteion bryd tri-chwrs yn cynnwys ysgwydd Cig Oen Cymru a lwyn Cig Oen Cymru mewn perlysiau. Crewyd y fwydlen gan y cogydd uchel ei barch yn Dubai, Russell Impiazzi ac roedd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gynnyrch eraill o Gymru yn cynnwys Halen Môn, dŵr Tŷ Nant, Caws Eryri a whisgi Penderyn.
Eglurodd Laura Pickup, Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC: “Mae’r Dwyrain Canol yn farchnad strategol o bwys i HCC a’r sector cig coch yn ehangach. Rydym wedi gweld twf sylweddol yn y farchnad, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae cynnal digwyddiadau fel hyn yn arddangos enw da Cymru a’n cynnyrch cig premiwm a chynaliadwy.”
“Rydym yn ddiolchgar i’r tîm yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Dubai am gefnogi Cig Oen Cymru a sector cig coch Cymru gyda’r digwyddiad hwn ac yn edrych ymlaen at barhau ein perthynas gyda chwsmeriaid sy’n bodoli’n barod a rhai newydd yn yr ardal.”