Mae cig coch yn chwarae rhan bwysig mewn deiet gytbwys, ac mae’n gynyddol bwysig i gysylltu â phlant a phobl ifanc er mwyn gwella’u dealltwriaeth o sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu. Beth bynnag fo’u hoedran, gall coginio gynnig cymaint i bob plentyn yn amrywio o sgiliau mathemateg a darllen yn ogystal ag addysgu sgiliau bywyd gwerthfawr. Rydym hefyd wedi creuTaflen Gweithgaredd Anifeiliaid Plant gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar ffermio yng Nghymru ac o ble mae ein bwyd yn dod. Wedi’u rhannu’n adnoddau sy’n fwyaf addas at ddwy ystod oedran gwahanol, mae gan blant 4-7 oed 16 opsiwn gwahanol sy’n cynnwys tynnu llun, paru a llawer mwy, tra gall plant 8-11 oed ddysgu beth sy’n gwneud cig coch mor arbennig mewn stori. Mae yna hefyd dorri allan a gludo, lliwio a sudoku! Digon i gadw meddyliau a bysedd prysur rhag diflasu a sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ddysgu.
Lawrlwythwch y gweithgareddau nawr ar ein gwefan defnyddwyr, EatWelshLambandWelshBeef.
Er mwyn cael eich plant i gymryd rhan mewn coginio gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y ryseitiau diweddaraf gan ddefnyddio Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a phorc.
Mae ein catalog o adnoddau addysgol ar gael yma.