Yn gynyddol, mae defnyddwyr yn mynnu gallu olrhain y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ôl i’w darddiad.
Yn gynyddol, mae defnyddwyr yn mynnu gallu olrhain y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ôl i’w darddiad.
Diolch i’r technoleg diweddaraf, bydd miliynau o gwsmeriaid yn gwybod yn iawn os mai Cig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru mae’n nhw’n ei chwennych, dyna fyddan nhw’n ei gael.
Mae Hybu Cig Cymru’n gweithio gyda’r cwmni technoleg Oritain a fydd yn golygu’r olrheinedd gorau posibl ar gyfer Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI, o’r fferm i’r fforc.
Oritain a Chig Oen Cymru HCC
Mae technoleg Oritain yn dadansoddi elfennau hybrin ac isotopau sy’n cael eu hamsugno gan anifeiliaid o’u hamgylchedd naturiol a’r glaswellt a’r dŵr a ddefnyddir ganddyn nhw, er mwyn creu ‘ôl bys tarddiad’ sydd yn gwbl Gymreig. Mae’r technegau yn uchel eu parch mewn amryw o ddiwydiannau, gan gynnwys bwyd, cotwm a chynhyrchion fferyllol.
Mae prosiect a ffurfiwyd yn 2018 wedi golygu y gall cig oen gael ei brofi o unrhyw le yn y gadwyn gyflenwi a’i wirio’n wyddonol i sicrhau ei fod yn deillio o anifail sy’n hannu o Gymru. Wrth gwrs, mae gan Gig Oen Cymru enw rhagorol am olrheinedd ymhlith defnyddwyr, diolch i’r cynllun PGI a weinyddir ar y cyd ag NSF Certification. Ond mae’r cytundeb hwn ag Oritain yn ei gymryd i’r lefel nesaf, gan sicrhau y bydd y brand yn arwain y byd yn y dyfodol.
Yn dilyn llwyddiant y gwaith gyda Chig Oen Cymru, cyhoeddwyd y bydd HCC ac Oritain yn datblygu eu cydweithio ym mis Mai 2021. Golyga hyn y bydd Cig Eidion Cymru’n cael ei brofi hefyd, er mwyn rhoi sicrwydd ychwanegol i system olrhain sydd eisoes yn llwyddo i olrhain y cig o’r fferm i’r fforc.
Dywedodd Gwyn Howells, Prif Weithredwr HCC:
“Ers i ni gymryd y cam dewr o weithio gydag Oritain i ddarparu haen ychwanegol o sicrwydd gwyddonol i’n system gref o olrheinedd ar gyfer Cig Oen Cymru – y cynnyrch cig PGI cyntaf i gymryd y cam hwn – rydyn ni wedi bod wrth ein bodd â’r canlyniadau. Maen nhw wedi profi fod gan ein cadwyn gyflenwi lefel eithriadol o uchel o onestrwydd, a chafodd ein gwaith ei gydnabod â gwobr technoleg bwyd yn 2019.
“Nawr rydym yn falch o gymryd y cam nesaf ac ehangu ein gwaith i gynnwys Cig Eidion Cymru yn ogystal â Chig Oen Cymru. Bydd y system hon, sy’n symlach na phrofion DNA ac nad yw’n dibynnu ar godau bar neu labeli, yn rhoi sicrwydd llwyr i gleientiaid gartref a thramor. Os taw cig cynaliadwy o ansawdd uchel o Gymru rydych chi ei eisiau, dyna beth gewch chi.”
Dywedodd Prif Weithredwr Oritain, Grant Cochrane: “Mae HCC wastad wedi bod yn sefydliad blaengar. Gallwn weld hyn yn ei statws PGI, y gwaith a wna yn y farchnad drwy godi ymwybyddiaeth o gig Cymru, a’i bwyslais ar ansawdd a dilysrwydd. Dyna pam y bu HCC yn gweithio gyda ni nôl yn 2018 a pham ei fod bellach yn ehangu’r gwaith hwn i gynnwys Cig Eidion Cymru. Mae HCC yn werthfawr iawn i ni ac rydyn ni wrth ein bodd yn ei weld yn parhau i dyfu o nerth i nerth.”
I glywed mwy am y gwaith yma, cliciwch yma i wylio recordiad o’n gweminar gyda Oritain, a gynhaliwyd ym mis Mai 2021, sy’n egluro’r dechnoleg a’r manteision i’r diwydiant yma yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth am Oritain, ewch i’w gwefan: https://oritain.com/