Geneteg diffyg elfennau hybrin mewn defaid mewn perthynas â chynhyrchedd, ffrwythlondeb ac iechyd
Partneriaid y prosiect yw Prifysgol Nottingham, BBSRC, HCC, AHDB, ac Agrisearch.
Gall diffyg elfennau hybrin megis cobalt (h.y. fitamin B12), sylffwr, seleniwm a sinc amharu ar gynhyrchedd, ffrwythlondeb ac iechyd anifeiliaid. Mae tueddiad anifeiliaid i ddioddef o ddiffygion o’r elfennau hybrin hyn a’u hymateb i atchwanegiadau yn amrywiol, ac mae tystiolaeth fod llawer o’r amrywiad hyn yn enetig ei darddiad a bod amrywiolion yn bodoli mewn cydrannau o fetaboledd un-carbon (1C).
Disgwylir i’r prosiect hwn
- ganfod faint o Bolymorffffurfiau Niwcleotid Sengl (SNP) y gellir eu rheoli fel bod modd i hyrddod mewn diadelloedd o wahanol fridiau gael eu sgrinio’n hyderus am duedd o fod yn ddiffygiol o ran metabolion 1C fel cobalt (B12).
- sefydlu diadell breswyl ddewisol o famogiaid, â phroffiliau SNP cyferbyniol, er mwyn profi pa mor effeithiol yw gwahanol atchwanegion elfennau hybrin sy’n cael eu rhoi mewn cyfnodau allweddol o’r cylch cynhyrchu blynyddol (e.e. cyplu, beichiogrwydd hwyr, diddyfnu).