Canfod firws OPA mewn defaid
Astudiaeth beilot i asesu perfformiad prawf Adwaith Cadwynol Polymerasau (PCR) i ganfod Retrofirws Jaagsiekte mewn Defaid (JSRV) fel rhan o becyn diagnostig “mamogiaid tenau”.
Cefndir
Mae Adenocarsinoma’r Ysgyfaint mewn Defaid (OPA) yn ganser yr ysgyfaint heintus mewn defaid yn unig. Fe’i hachosir gan Retrofirws Jaagsiekte mewn Defaid (JSRV); nid oes modd ei drin ac unwaith y mae’r symptomau wedi datblygu mae’n angheuol. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, gellir disgwyl colli 20% o’r defaid mewn diadell lle mae achosion ohono. Mae OPA yn destun pryder cynyddol i’r diwydiant defaid yn y DG. Ar hyn o bryd nid oes modd cael diagnosis dibynadwy a chywir o arwyddion cyn-glinigol o OPA, ac mae’r angen am brawf yn cynyddu.
Datblygwyd prawf Adwaith Cadwynol Polymerasau (PCR) sydd yn canfod celloedd mewn gwaed defaid sydd wedi eu heintio gan JSRV, ond nid yw’n ddigon sensitif mewn perthynas ag anifeiliaid unigol. Wrth brofi nifer o ddefaid mewn diadell, mae modd defnyddio PCR y gwaed yn brawf ar gyfer y ddiadell gyfan, ond ni chafodd y sbesiffigedd na’r sensitifedd eu profi.
Nod
Nod y prosiect yw asesu a yw’r prawf JSRV PCR, o’i ddefnyddio ar is-set o anifeiliaid sydd yn ymddangos yn wael eu gwedd, sef un o symptomau cynnar OPA, yn brawf OPA effeithiol ar gyfer diadell. Mae’r ymchwil hefyd yn ceisio penderfynu ai samplau o waed amgantol ynteu secretiadau trwynol sydd orau. Bydd y prosiect yn mireinio’r prawf PCR a ddefnyddir ar hyn o bryd dan amodau ymchwil, er mwyn ei drosglwyddo i labordy masnachol.
Pam mae’n bwysig?
Mae OPA yn destun pryder cynyddol i’r diwydiant defaid yn y DG. Mae adborth o ddigwyddiadau Sefydliad Ymchwil Moredun (MRI) yn Scotsheep, Northsheep, Sioe’r Royal Highland a Sioe Frenhinol Cymru wedi dangos bod angen gwybodaeth am OPA a bod angen datblygu dulliau o reoli’r clefyd. Bydd mynd i’r afael â’r angen hwn yn gymorth i wella iechyd a lles trwy gyfrwng cynllunio iechyd, gwella bioddiogelwch a deall y clefyd a sut i’w reoli yn well.
Pwy fydd yn ymgymryd â’r prosiect?
Arweinir yr ymchwil gan Sefydliad Ymchwil Moredun. Caiff y prosiect ei ariannu gan HCC, AHDB Beef and Lamb, BioBest Laboratories a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Ffrâm amser y prosiect
Dechrau: Hydref 2015
Hyd: 12 mis
Gorffen: Medi 2016