Clefyd y Crafu
Canlyniadau Cynllun Cenedlaethol Clefyd y Crafu
Nod
Cychwynnwyd Cynllun Cenedlaethol Clefyd y Crafu (NSP) yn 2001 gyda’r nod o gael gwared ar Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSEs) o’r ddiadell ddefaid genedlaethol. Mae ymatebolrwydd i clefyd y crafu clasurol yn dibynnu ar amrywiant ar y genyn PrP (protein prion) a bu’r Cynllun Genoteipio Hyrddod (elfen hanfodol o’r NSP) yn genoteipio hyrddod bridio ar gyfer y genyn hwn.
Pam mae’n bwysig?
Mae alelau’r genyn PrP yn ddangosyddion o ymatebolrwydd i glefyd y crafu. Mewn defaid, yn aml bydd anifeiliaid yn cario amrywiolyn penodol o’r protein PrP sy’n wahanol i’r amrywiolion PrP mewn anifeiliaid sy’n ymwrthol i glefyd y crafu. Roedd yna bryder ymhlith bridwyr defaid y gallai hoelio’r holl sylw ar y genyn PrP er mwyn dileu TSEs gael effaith andwyol ar nodweddion masnachol-bwysig a golygu bod nodweddion annymunol yn cael eu dewis yn anfwriadol.
Sut gwnaed y prosiect?
Defnyddiodd y prosiect y data cyfredol ynglyn â genoteipio a pherfformiad o grwpiau bridio ynghyd â data ychwanegol am nodweddion yn berthynol i iechyd a gasglwyd o ffermydd a grwpiau bridiau dethol. Hefyd, defnyddiwyd data o ddiadelloedd arbrofol oherwydd yr holl fanylion yn eu cofnodion. Yna cafodd y data hwn ei gysylltu â data o’r NSP.
Pwy wnaeth y gwaith?
Gwnaed y gwaith gan Goleg Amaethyddol yr Alban, Sefydliad Roslin, yr Asiantaeth Labordai Milfeddygol, Prifysgol Caeredin, Ymddiriedolaeth y Bridiau Prin, yr Ymddiriedolaeth Ddefaid, CBS, y Sefydliad Astudiaethau Gwledig a Signet.
Ariannwyd y prosiect gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig gyda chyfraniadau mewn da gan HCC, EBLEX a QMS.
Canlyniadau’r prosiect
Mae’r canlynol yn grynodeb o ganlyniadau’r prosiect. Mae adroddiad manwl ar gael yma.
Crynodeb o gysylltiadau genoteip PrP â nodweddion eraill sy’n bwysig yn economaidd
- Wrth ddadansoddi setiau data arbrofol a masnachol mawr, ni ddatgelwyd cysylltiadau sylweddol a chyson o’r genoteip PrP ag amrediad eang o nodweddion perfformiad.
- Wrth ddadansoddi diadelloedd o ddefaid wynebddu’r Alban, cafwyd tystiolaeth fod yr alel ARQ yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o oroesi ôl-enedigol na’r alelau ARR neu AHQ sy’n fwy ymwrthol.
- Gallai’r canlyniadau hyn fod yn bwysig i’r diwydiant ond ni chawsant eu hailadrodd mewn unrhyw un o’r setiau data masnachol.
- Ni fyddai dewis wedi’i anelu at ddileu’r alele VRQ yn cael fawr o effaith ar berfformiad a goroesedd ar lefel y sector.
Crynodeb o effaith dewis PrP ar gyfraddau mewnfridio a chynnydd genetig mewn perfformiad ac ar y risg o glefyd y crafu yn digwydd mewn bridau prif-ffrwd
Mae dewis rhag VRQ
- yn cael ond yr effaith leiaf ar gynnydd genetig o ran perfformiad a mewnfridio
- yn annigonol i ddileu’r risg o glefyd y crafu. Mae’r risg yn dal i fodoli ar ôl 15 mlynedd o ddewis ond byddai unrhyw epidemig yn fach pe bai’r clefyd yn digwydd
Mae strategaethau mwy eithafol o blaid ARR neu yn erbyn ARQ
- yn arwain at ostyngiadau yng nghyfraddau cynnydd genetig, yn bennaf yn ystod pum mlynedd cyntaf y dewis. Mae’r gostyngiadau hyn yn fawr ond os yw’r fARR yn gymharol isel
- yn arwain at gyfraddau is o fewnfridio
- yn lleihau’r risg o glefyd y crafu yn sylweddol. Mae’r risg yn fach pan fo fARR > 0.7
Crynodeb o effaith dewis PrP ar gyfraddau mewnfridio ac ar y risg o glefyd y crafu yn digwydd mewn bridiau prin
Mae dewis rhag VRQ
- yn arwain at gynnydd bach yn y gyfradd fewnfridio os yw’r fVRQ cychwynnol yn uchel (≥ 0.30)
- yn annigonol i ddileu’r risg o glefyd y crafu
Mae dewis o blaid ARR
- yn arwain at gynnydd mawr yn y gyfradd fewnfridio os yw fARR yn isel (≤0.30)
- yn lleihau’r risg o glefyd y crafu yn sylweddol. Mae’r risg yn fach pan fo fARR yn cyrraedd 0.7 ond yn cymryd yn hirach i gyrraedd hynny nag yn y bridiau prif-ffrwd (e.e. gall na fydd fARR 0.7 yn gyraeddadwy o fewn 15 mlynedd os yw’r fARR cychwynnol yn isel; e.e., 0.05)