Pesgi buchod o’r fuches laeth ar gyrfer cig eidion
(Marwth 2006 – Awst 2006)
Nod
Pennu meincnodau perfformiad buchod cwl Holstein modern sy’n cael eu porthi ar borfwyd yn yr hydref a’r gaeaf.
Pam mae’n bwysig?
Fel canlyniad i derfynu’r cynllun dros 30 mis ar 7 Tachwedd 2005, bydd tua 635,000 o fuchod cwl o fuchesi sugno a godro yn gymwys i ymuno â’r gadwyn cyflenwi cig eidion. Mae angen i ffermwyr gynllunio sut i gael y gwerth gorau posibl o’r buchod hyn – naill ai drwy eu pesgi ar y fferm neu eu gwerthu i’w lladd neu i’w pesgi ymhellach. Ar hyn o bryd mae yna brinder gwybodaeth am gymeriant porthiant a chynnydd pwysau byw ar gyfer buchod cwl Holstein modern a ddefnyddir i gynhyrchu cig eidion yn y DG.
Er y gellid pesgi buchod cwl ar borfa yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae’n debygol y bydd y prif systemau ar gyfer pesgi buchod yn yr hydref a’r gaeaf yn seiliedig ar silwair glaswellt, silwair indrawn neu ddwysfwydydd.
Sut fydd y prosiect yn gweithio?
Bydd 24 o fuchod godro du a gwyn yn cymryd rhan yn yr ymchwil, a bydd yna dri grwp yr un o wyth buwch yn cael un porthiant o blith y canlynol:
T1. Silwair glaswellt yn unig
T2. Silwair glaswellt ynghyd â grawnfwyd atodol (2 – 4 kg/y fuwch/y dydd)
T2. Silwair glaswellt ynghyd â phrotein atodol (i greu ymborth â 12% o brotein amrwd)
Bydd mesuriadau unigol o gymeriant, cynnydd pwysau byw a sgôr cyflwr corff yn cael eu cymryd trwy gydol y cyfnod bwydo, ynghyd ag ansawdd maethol yr ymborth. Cyfrifir effeithlonrwydd trosi porthiant a chost porthiant yn ôl pob kg o gynnydd pwysau byw dyddiol. Ar ddiwedd y cyfnod bwydo bydd y buchod yn cael eu lladd er mwyn cael data am eu carcasau.
Bydd yr ymchwil yn darparu gwybodaeth am berfformiad, carcas a chostau cynhyrchu sy’n berthnasol i besgi buchod cwl o’r fuches odro yn y gaeaf.
Pwy fydd yn gwneud y gwaith?
Bydd y gwaith ymchwil yn cael ei wneud gan Brifysgol Reading yn y Ganolfan Ymchwil Llaeth (CEDAR)
Noddir y prosiect ar y cyd gan HCC, EBLEX a QMS.