Bio-leihad
Bio-leihad fel ffordd o gadw anifeiliaid trig yn ddiogel ar y fferm cyn eu gwaredu
Mae Rheoliad Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid yr UE sy’n rheoli gwaredu stoc trig wedi achosi pryder oddi mewn i’r diwydiant da byw am resymau economaidd ac amgylcheddol. Cynigiwyd y dylid defnyddio Bio-leihad fel ffordd amgen o storio (a hwyrach o waredu) stoc trig ond ar hyn o bryd mae diffyg tystiolaeth wyddonol i gefnogi hyn. Cyn bod modd cyflwyno dull gwaredu amgen, mae’r UE yn ymofyn gwybodaeth foddhaol yn unol â’r meini prawf a ganlyn:
- Manylion adnabod a nodweddion y defnyddiau risg i’w gwaredu
- Y lleihad o risg TSE trwy gyfrwng y broses benodol
- Y graddau y gellir cyfyngu’r risg
- Adnabod prosesau cyd-ddibynnol, e.e. y weithdrefn osod, yr angen i ychwanegu dwr, gofyniad gwres a gwaredu’r cynnyrch terfynol
- Defnydd terfynol arfaethedig y cynnyrch
Mae HCC a Llywodraeth Cymru wedi cyllido prosiect ym Mhrifysgol Bangor i werthuso effeithiolrwydd a chydymffurfiad â’r amgylchedd bio-leihau mewn llestr er mwyn cadw / storio stoc trig yn ddiogel ar ffermydd cyn eu llosgi. Cafodd y system ei gwerthuso hefyd fel ffordd newydd o waredu stoc trig. Y prif feini prawf ar gyfer asesu llwyddiant y system yw:
- Ei bod yn ffordd ddiogel o storio stoc trig ar y fferm cyn gwaredu gan weithredwr cymeradwy.
- Ei bod yn rhoi rhywfaint o driniaeth heb gynyddu unrhyw risg biolegol neu gemegol, h.y. bod llwythi pathogenau’n cael eu lleihau, nad yw nwyon niweidiol yn cael ei rhyddhau a bod y cynnyrch terfynol heb berygl ac felly yn addas i’w symud a’i drin/waredu yn fio-ddiogel.
Yn dilyn llwyddiant y prosiect hwn, cyflwynwyd y canlyniadau i gynrychiolwyr yr UE, a llwyddodd Llywodraeth Cymru i gael cyfaddawd o ran y rheoliadau ynglyn â stoc trig sy’n caniatáu eu cadw’n ddiogel ar y fferm cyn eu gwaredu.
Cafodd Cymal 2 o’r prosiect ei gwblhau erbyn hyn ac mae’n rhoi dilysrwydd ychwanegol i ddefnyddio bio-leihawyr i gadw anifeiliaid trig yn ddiogel ar y fferm.
I weld yr adroddiad terfynol, cliciwch yma
Cafodd y dystiolaeth o’r prosiectau hyn ei chyflwyno i’r UE a nawr mae’r diwydiant yn disgwyl penderfyniad ynglŷn ag a ellir defnyddio bio-leihawyr ar y fferm er mwyn cadw stoc trig.