Lleihau Nwyon Tŷ Gwydr
Mae’r brobelm gysylltiedig ag allriadau nwyon ty gwydr mewn amaethyddiath yn cael ei chydnabod fwyfwy gan y llywodraeth a chan ddefnyddwr. Yng Nghymru, gellir lleihau’r allrydiadau nwyon ty gwydr mewn amaethyddiaeth – ac yn arbennig with gynhyrchu cig coch – drwy wneud newidiadau bychain i dechnegau rheoli a hefyd drwy ddefnyddio arferion gorau.
Y sylfeini i ddechrau;
Ceir tri phrif fath o nwyon ty gwydr:
Er bod ffermio da byw yn gyfrifol am gynhyrchu rhywfaint o garbon deuocsaid, ocsid nitraidd a methan yw mwyafrif yr allriadau.
Cynhyrchir ocsid nitraidd a methan o ganlyniad i brosesau amrywiol. Rhyddheir ocsid nitraidd o briddoedd yn bennaf, ac o ddefnyddio gwrteithiau, ac mae methan yn cael ei gynhyrchu wrth i anifeiliaid cnoi cil dreulio eu bwyd, ac wrth storio tail anifeiliaid. Pan gynhyrchir carbon deuocsaid, gwneir hynny fel rheol o ganlyniad i darfu ar y pridd, defnyddio tanwydd a phrosesau gweithgynhyrchu.
Yn ystod Gorffennaf 2011, gwnaeth Hybu Cig Cymru cynhyrchu dogfen o’r enw Dyfodol Cynaliadwy – Map Ffyrdd Cig Coch Cymru. Mae’r Map yn edrych ar sut gall ffermwyr a phroseswyr da byw yng Nghymru gyflawni nodau diwydiant a llywodraeth newydd a chytunedig ar gyfer allyriadau NTG.