Iechyd a Lles Anifeiliaid
Drwy wella iechyd y diadelloedd a’r buchesi bridio, gall ffermwyr sicrhau’r hirhoedledd gorau posibl i’r stoc bridio a gallai gwella iechyd y stoc pesgi arwain at farchnata anifeiliaid yn gynharach. Byddai’r ddwy sefyllfa’n arwain at fenter fwy cynhyrchiol ac, o’r herwydd, at fenter fwy proffidiol, a hefyd lleihau allyriadau NTG.
Gall cael stoc newydd i gymryd lle hen stoc fod yn ddrud ac felly gall sicrhau bod yr anifeiliaid bridio’n parhau mor gynhyrchiol ag y bo modd ar y fferm arwain at fanteision economaidd ac amgylcheddol. Bydd sicrhau bod pob hwrdd a tharw ar y fferm yn heini ac iach cyn eu defnyddio yn gostwng y gyfradd hesb yn niadell y defaid a buches y gwartheg.
Bydd defnyddio stoc benywaidd gyda lefelau ffrwythlondeb uwch a nodweddion hirhoedledd yn gwella cynhyrchiant, ac felly hefyd y ddarpariaeth o faetholion cywir wrth fagu benywod bridio ac yn ystod y tymor bridio.
Mae cynlluniau iechyd anifeiliaid yn gyffredin yn awr ar ffermydd; fodd bynnag, y cynlluniau mwyaf effeithiol yw’r rhai a ddyfeisir gan y ffermwr ar y cyd â milfeddyg/ymgynghorydd milfeddygol y fferm. Drwy gael milfeddyg i fod yn rhan o’r broses, gall ffermwr weld y technolegau a’r problemau iechyd diweddaraf a hefyd sicrhau cyngor gwerthfawr.
Mae HCC wedi cyhoeddi nifer o lyrfrau ar Iechyd a Lles Anifeiliaid