Defnyddio Ynni a Dwr
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae costau ynni a dwr, at ddibenion domestig a masnachol, wedi cynyddu’n sylweddol. O ganlyniad, mae angen defnydd effeithlon o ynni a dwr ar ffermydd er mwyn arbed arian a hefyd lleihau’r allyriadau NTG cysylltiedig â’r ddau ddefnydd.
Mae cynhyrchu trydan ar fferm yn dod yn fwy a mwy poblogaidd a cheir cyfleoedd i greu incwm o hyn. Ymhlith y technolegau addas i’w mabwysiadu ar fferm mae ynni dwr, haul a gwynt. Gellir cael rhagor o wybodaeth am ynni adnewyddadwy a sut i’w fabwysiadu ar fferm yn http://www.climate-wales.org.uk
Er nad yw ffermwyr bîff a defaid yn defnyddio llawer iawn o ddwr, gellir gwneud arbedion drwy sicrhau bod y cyflenwadau’n addas i bwrpas ac nad oes dim dwr yn gollwng yn unrhyw le.