Padiau Naddion Prenslu
Cynllunio a rheoli padiau naddion pren yn well ar gyfer cadw da byw yn yr awyr agored dros y gaeaf trwy ddulliau cynaliadwy
Nod y prosiect oedd darganfod a yw padiau naddion pren yn golygu gallu cadw gwartheg yn rhatach dros y gaeaf, gyda llai o risg o lygru’r awyr a dwr ac er mantais i iechyd a lles yr anifeiliaid.
Er y cafwyd rhai canllawiau ar gynllunio, adeiladu a rheoli padiau naddion pren, roedd llawer o badiau naddion pren wedi eu gosod heb ddylunio na chynllunio digonol, ac roedd hyn yn dal i ddigwydd.
Roedd ymchwil diweddar wedi dangos bod risg annerbyniol o lygredd i ddwr daear yn gysylltiedig â llociau naddion pren heb eu leinio a bod angen asesiad trylwyr ar frys ynglyn â chostau gwell cynllunio ac adeiladu.
Roedd canlyniadau adeiladu a rheoli padiau’n wael yn cynnwys nid yn unig risg difrifol o halogi dwr daear â maetholion a phathogenau ond hefyd o fethiant llwyr y pad, gydag effeithiau andwyol ar iechyd a lles anifeiliaid, yn ogystal ag ar incwm y fferm.
Ar y llaw arall, roedd yn ymddangos yn debygol y gall padiau naddion pren wneud cyfraniad sylweddol tuag at ostegu allyriadau amonia o’r sectorau llaeth a chig eidion a chwtogi ar faint o lygryddion sy’n llifo o ffermydd.
Fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw fesuriadau trylwyr o allyriadau nwyol o’r blaen, ac ychydig iawn o ddata oedd ar gael ynglyn ag ansawdd elifion. Cafodd opsiynau dylunio manwl eu hadolygu a’u prisio.
Cafodd allyriadau nwyol a chyfaint ac ansawdd elifion eu monitro a chafodd pwysigrwydd ystod o ffactorau sy’n effeithio ar berfformiad yr anifeiliaid a’r padiau eu gwerthuso gyda goblygiadau ar gyfer canllawiau ynglyn â rheoli padiau naddion pren. Cafodd effaith rheoli padiau ar lendid a lles anifeiliaid ei asesu hefyd.
Amcanion y prosiect oedd:
- Adolygu ymchwil diweddar i badiau naddion pren, gan roi ystyriaeth benodol i reoli elifion ac i allyriadau; byddai’r casgliadau’n dylanwadu ar fanylion terfynol astudiaethau yr ymgymerir â nhw fel rhan o’r prosiect hwn;
- Dadansoddi’r costau sy’n gysylltiedig ag ystod o ddewisiadau ynglyn ag adeiladu a rheoli padiau;
- Astudio llifoedd maetholion trwy ddraenio elifion ac allyriadau Nitrogen nwyol, dan amrywiaeth o ddulliau rheoli ac amrywiaeth o amodau amgylcheddol;
- Gwerthuso effaith amrywiaeth o ffactorau ar berfformiad padiau ac ansawdd elifion gan gynnwys maint y naddion pren, draeniad y pad a’r gyfradd stocio;
- Astudio effaith rheoli ar berfformiad anifeiliaid a phadiau, gan gynnwys agweddau ar les a glendid anifeiliaid a’r angen i ychwanegu rhagor o naddion pren.
- Adolygu’r canllawiau arferion gorau ar adeiladu a rheoli padiau naddion pren;
- Hyrwyddo’r prif gasgliadau ac argymhellion i’r diwydiannau cig eidion a llaeth trwy gyfrwng digwyddiadau hyrwyddo, deunydd darllen a thrwy bartneriaid yn y diwydiant.
Y Manteision a Ddisgwylid:
Disgwylid y byddai manteision yn deillio o ganlyniadau’r prosiect i gynhyrchwr llaeth a chig eidion, i’r diwydiannau coetir a phren ac i’r amgylchedd. Ymhlith y prif fanteision byddai:
- Arweiniad clir ar gynllunio ac adeiladu padiau naddion pren mewn ffordd amgylcheddol gynaliadwy, a’r costau cysylltiedig;
- Gwybodaeth am lifoedd maetholion mewn systemau padiau naddion pren ac argymhellion ar gyfer rheoli elifion (er mantais i faetholion ac i ddiwallu gofynion croesgydymffurfio) a naddion wedi’u defnyddio;
- Cael gwared â’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â buddsoddi mewn padiau naddion pren mewn perthynas ag ystyriaethau economaidd a rheoliadau amgylcheddol;
- Gwybodaeth i ymchwilwyr ac ymgynghorwyr polisi ynglyn â gallu padiau naddion pren i leddfu allyriadau nwyol fel opsiwn ar gyfer gaeafu gwartheg;
- Gwell dealltwriaeth o ofynion rheoli padiau naddion pren ac atal y padiau rhag methu;
- Gwell cysylltiadau rhwng y diwydiannau coetir a phren, ffermwyr a chontractwyr.
Pwy fu’n gwneud y gwaith?
Gwnaed y gwaith gan ADAS gyda mewnbwn gan North Wyke Research. Cafodd y prosiect ei ariannu ar y cyd gan nifer o sefydliadau gan gynnwys Defra, HCC, EBLEX Cyf a DairyCo.
I weld adolygiad technegol o badiau naddion pren, cliciwch yma
I weld y llyfryn Cynllunio a rheoli padiau naddion pren yn well ar gyfer gaeafu da byw yn yr awyr agored trwy ddulliau cynaliadwy, cliciwch yma