Adnoddau Ymchwil a Datblygu
Nod Hybu Cig Cymru (HCC) yw datblygu marchnadoedd proffidiol a chynaladwy i gig coch Cymru er budd yr holl randdeiliaid yn y gadwyn gyflenwi. Felly, mae HCC o’r farn bod ymchwil a datblygu (Y&D) yn weithgaredd craidd i wneud y sector cig coch yng Nghymru yn fwy proffidiol.
Mae’r rhan fwyaf o fusnesau ffermio yn cael eu cyfyngu gan gost Y&D, sydd yn aml yn gostus y tu hwnt. Er efallai nad oes modd i gynhyrchwr da byw ddatblygu ei raglen ei hun, gall HCC alluogi busnesau ffermio yng Nghymru i gael mynediad i brosiectau ymchwil hanfodol trwy gyfrwng adnoddau cyfunol er budd y diwydiant cyfan.