LIPIGRASS
LIPIGRASS – LIPIGRASS – Bridio â chymorth genomeg ar gyfer cynnwys a chyfansoddiad asidau brasterog mewn rhygwellt lluosflwydd (Lolium perenne L.)
Mae brasterau ac olewau yn gyfansoddion pwysig ym mhorthiant da byw oherwydd maent yn cyfrannu egni sylweddol at ofynion cynhyrchiol yr anifeiliaid sy’n eu bwyta. Yn ogystal â diwallu gofynion egni sylfaenol ar gyfer cynhyrchu cig a llaeth, gall asidau brasterog ac, yn bwysicach, proffil asidau brasterog y lipidau ym mhorthiant da byw, ddylanwadu ar sut mae’r rwmen yn gweithio ac ar ansawdd y cynhyrchion anifeilaidd sy’n cael eu bwyta gan bobl. Cafwyd hyd i gyfle i gynyddu cyfanswm y cynnwys asidau brasterog, yn enwedig yr asidau brasterog amlannirlawn (PUFA). Oherwydd hyn, dylai’r genhedlaeth nesaf o rygwelltau perfformiad-uchel gan IBERS fod yn fuddiol i amaethyddiaeth y DG ac i’r amgylchedd, oherwydd bydd llai o allyriadau methan o goluddion anifeiliaid sy’n cnoi cil a bydd yr anifeiliaid hynny’n fwy cynhyrchiol. Hefyd, gallai fod yn llesol i iechyd pobl am y bydd mwy o asidau brasterog amlannirlawn o borfwyd i’w cael mewn cig a llaeth.
Amcan canolog y prosiect hwn yw gwella cynnwys yr asidau brasterog mewn rhygwellt lluosflwydd trwy gyfrwng y dulliau ac adnoddau genomeg diweddaraf ynghyd â dulliau ffenoteipio â thrwybwn uchel. Bydd hefyd yn mesur effaith cynnwys asidau brasterog wedi’i addasu ar gynnyrch anifeiliaid, ar y cyflenwad o asidau brasterog omega-3 buddiol i anifeiliaid ac ar allyriadau nwyon tŷ gwydr). Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n wynebu amaethyddiaeth y DG mewn cyfnod o newid yn yr hinsawdd. Mae hinsawdd y DG yn addas ar gyfer cynhyrchu anifeiliaid sy’n pori, a’r her fawr yw cynhyrchu mwy ohonynt – ond gwneud hynny â llai o fewnbwn ar sawl lefel.
Mae’r prosiect hwn, dros gyfnod o bum mlynedd, yn cael ei ariannu gan BBSRC, Germinal Holdings a HCC
Mae’r gwaith yn cael ei wneud yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth