Rhestr Glaswellt a Meillion Cymeradwy
Mae’r Rhestr Glaswellt a Meillion Cymeradwy yn caniatáu ffermwyr i ddewis yr hadau glaswellt a meillion mwyaf priodol ar gyfer eu ffermydd, yn seiliedig ar ddata annibynnol a dibynadwy.
Yn y gorffennol cafodd y treialon i gasglu’r data eu hariannu trwy ardoll wirfoddol gan werthwyr hadau, yn seiliedig ar fanwerthiant. Oherwydd problemau ynglŷn â chael digon o arian, daethpwyd i gytundeb gyda HCC ac AHDB i ddarparu cyllid fel bod y Rhestr yn parhau. Fel canlyniad i hyn, cafodd y system a lleoliad y treialon eu hadolygu’n llwyr, a thrwy ymrwymiad HCC ac AHDB cynhyrchir llyfryn blynyddol â gwybodaeth am y rhestr o’r rhywogaethau cymeradwy cyfredol.
Manylion pellach Rhestr Glaswellt a Meillion Cymeradwy ar gael o’r linc allanol yma.